Ci Defaid Awstralaidd

Ci defaid sy'n tarddu o'r Unol Daleithiau yw'r Ci Defaid Awstralaidd. Er ei enw, cafodd ei ddatblygu yn hwyr y 19eg ganrif yng Ngorllewin yr Unol Daleithiau o gŵn megis y Ci Defaid Pyreneaidd a berchnogwyd gan fugeiliaid Basgaidd a fu'n treulio amser yn Awstralia.[1]

Ci Defaid Awstralaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Defaid Awstralaidd

Mae lliw ei gôt o flew yn amrywio'n eang: gall fod yn ddu, merl glas (brith llwyd ar ddu), merl coch (brith llwydfelyn ar goch), neu'n goch, ac o bosib gyda marciau gwyn neu liw copr. Yn aml mae coler wen a marciau gwyn ar y gwddf, y frest, y coesau, y trwyn, a'r rhannau isaf neu farc gwyn ar y pen. Mae'r gôt o hyd canolig, ac ychydig yn donnog, ac yn bluog ar y coesau a gyda mwng hir a chrib o flew ar y gwddf a'r frest uchaf. Mae ganddo lygaid brown, glas neu felyngoch, ac mae gan rai ohonynt lygaid cymysgliw. Yn aml mae'r gynffon yn gwta. Mae ganddo daldra o 45 i 58 cm (18 i 23 modfedd) ac yn pwyso 16 i 32 kg (35 i 70 o bwysau).[1]

Yn ogystal â gwaith ffermio a sodli, defnyddir y Ci Defaid Awstralaidd fel ci chwilio ac achub, ci heddlu, ci tywys, a chi therapi. Mae'n gi eofn gyda greddf gryf fel ci defaid a gwarchotgi. Mae'n anifail anwes poblogaidd ond mae angen lefel uchel o weithgarwch arno.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Australian shepherd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Hydref 2014.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: