Cil-y-cwm

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cil-y-cwm[1] (hefyd: Cilycwm). Saif ar Afon Gwenlais, ychydig i'r gogledd o'r fan lle mae'n ymuno ag Afon Tywi ac i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel, yn dyddio o'r 15g, a cheir murluniau diddorol ynddi. Ceir ywen enfawr yn y fynwent.

Cil-y-cwm
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth487 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd7,442.35 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.045°N 3.82°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000497 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o fynyddoedd Elenydd; y pwynt uchaf yw Mynydd Mallaen (448m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.

Cynrychiolir Cil-y-cwm yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[2][3]

Enwogion golygu


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cil-y-cwm (pob oed) (487)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cil-y-cwm) (223)
  
47.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cil-y-cwm) (304)
  
62.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cil-y-cwm) (67)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]