Cilymaenllwyd

cymuned a phlwyf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin

Cymuned a phlwyf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cilymaenllwyd. Ymestynna'r gymuned oddeutu'r briffordd A478 a rhannau uchaf Dyffryn Taf, ac mae ger y ffîn a Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Efail-wen a Login.

Cilymaenllwyd
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth742 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,679.56 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9°N 4.7°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000498 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Ceir nifer o henebion diddorol yn y gymuned, yn cynnwys cylch meini Meini Gŵyr. Ceir hefyd croes eglwysig bwysig gerllaw, sef Croes Eglwys Llanglydwen. Eglwys Sant Cledwyn yw'r unig eglwys i'w chysegru i Sant Cledwyn. Dywedir fod Cledwyn yn fab i Brychan, Brenin Brycheiniog a oedd yn dad i 40 o blant.[1] Cofnodwyd ei henw'n gyntaf yn 1291.

Yn yr ardal yma y dechreuodd Terfysgoedd Rebeca. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 724, gyda 66.29% a rhywfaint o wybodaeth o'r Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cilymaenllwyd (pob oed) (742)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cilymaenllwyd) (396)
  
55%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cilymaenllwyd) (492)
  
66.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cilymaenllwyd) (100)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Grŵp Eglwysi Crymych; Archifwyd 2014-07-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Ebrill 2014.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu