Actor llais Americanaidd oedd Clarence Charles "Ducky" Nash (7 Rhagfyr 190420 Chwefror 1985). Roedd yn fwyaf adnabyddus am leisio cymeriad cartŵn Cwmni Disney Donald Duck. Bu'n lleisio Donald Duck am dros 50 mlynedd. Bu hefyd yn lleisio cariad Donald Daisy Duck, a neiaint Donald Huey, Dewey a Louie.

Clarence Nash
Ganwyd7 Rhagfyr 1904 Edit this on Wikidata
Watonga, Oklahoma‎ Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1985 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethdigrifwr, canwr, actor llais, actor llais, actor Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Disney Legends', Gwobr Inkpot Edit this on Wikidata

Fe'i aned yng nghymuned gwledig Watonga, Oklahoma. Mae stryd yn ei dref enedigol wedi ei enwi er anrhydedd iddo. Ym 1993, fe'i urddwyd i restr Arwyr Disney (Disney Legends) am ei gyfraniad i ffilmiau Walt Disney.[1]

Gyrfa Cynnar golygu

Daeth Nash i amlygrwydd cynnar fel dynwaredwr ar sianel radio KHJ yn Los Angelese yn niwedd y 1920au. Roedd yn ymddangos mewn sioe o'r enw The Merrymakers. Wedyn cafodd ei gyflogi gan gwmni gwerthu llaeth. Roedd yn tramwyo'r strydoedd gyda gwedd o geffylau bychan gan dynwared trydar adar ac yn rhoi rhoddion i blant er mwyn codi cyhoeddusrwydd i'r cwmni.

Ym 1932, aeth Nash heibio stiwdio Disney gyda'i wedd o geffylau gan adael deunydd cyhoeddusrwydd gyda'r derbynnydd. Roedd Walt Dinsey wedi ei glywed ychydig dyddiau ynghynt ar y rhaglen The Merrymakers, ac roedd ei dynwarediadau wedi gwneud argraff arno. Wedi deallt y cysylltiad rhwng y dyn ar y radio a'r dyn hybu llaeth, gofynodd Disney i Nash gwneud clyweliad.[2]

Donald Duck golygu

Yn y clyweliad aeth Nash trwy nifer o'i leisiau, a digwyddodd Walt Disney mynd heibio pan oedd Nash yn dynwared teulu o hwyaid. Roedd Disney o'r farn y byddai dynwarediad Nash yn berffaith ar gyfer rôl llais hwyaden anthropomorffig roedd wrthi'n creu ar gyfer y ffilm The Wise Little Hen. Yr hwyaden oedd Donald Duck, ac aeth Nash ymlaen i'w leisio am bron i 50 mlynedd, mewn dros 120 o ffilmiau. Y ffilm olaf i gynnwys llais enwog Nash oedd Mickey's Christmas Carol ym 1983, er ei fod yn parhau i roi llais i Donald ar gyfer hysbysebion, deunydd hyrwyddo a deunydd amrywiol eraill hyd ei farwolaeth.[3]

Aeth Donald Duck ymlaen i fod yn un o'r cymeriadau cartŵn mwyaf enwog yn y byd. Roedd rhan fawr o'i lwyddiant oherwydd llais Nash. Mae'r llais yn nodedig am ei ansawdd hwylus a'r ffaith ei fod yn aml yn anodd iawn i unrhyw un ei ddeall, yn enwedig pan fu Donald yn colli ei limpyn (a ddigwyddodd yn eithaf aml).

Cymeriadau eraill golygu

Yn ogystal â llais Donald, bu Nash hefyd yn lleisio Daisy Duck (yn ei ymddangosiadau cynharaf, pan nad oedd hi'n llawer mwy na fersiwn benywaidd o Donald), yn ogystal â'i neiaint Donald Huey, Dewey a Louie. Rhoddodd y llais i'r cymeriad PJ yn y cartŵn Bellboy Donald ac i'r marchlyffant yn Bambi. Bu'n lleisio Figaro'r gath fach mewn llond llaw o ffilmiau byr a gwnaeth rhai o'r synau cŵn yn One Hundred and One Dalmatians. Lleisiodd Jiminy Cricket hefyd am gyfnod byr ar ôl marwolaeth Cliff Edwards, y llais gwreiddiol ym 1971.[1] Bu Nash yn cyflenwi mewian a sgrechfeydd ar gyfer Tom yn Tom a Jerry. Daeth ei berfformiad olaf yn Tom a Jerry yn Mouse in Manhattan (1945), gan actio lleisiau'r cathod stryd cefn treisgar.

Ymddangosiadau personol golygu

Ymddangosodd Nash fel ei hun yn ffilm The Reluctant Dragon, 1941, sy'n dangos sut mae ffilmiau Disney yn cael eu cynhyrchu, ac roedd yn gystadleuydd ar bennod 1954 o What's My Line.[4] a phennod 1964 o To Tell the Truth. Ymddangosodd Nash hefyd fel ei hun ym mhennod Disneyland ym 1956 dan y teitl "A Day in the Life of Donald Duck", lle mae'n rhyngweithio â'r Donald animeiddiedig sy'n beio Nash am ei broblemau lleferydd: oherwydd tymer byr Donald mae'r sgwrs rhwng y ddau yn troi'n ddadl ffyrnig. Bu hefyd yn westai ar bennod 1976 o Sioe Mike Douglas. Roedd 50fed Pen-blwydd Donald Duck yn 1984 yn cynnwys sawl clip o ffilmiau Disney a pherfformiadau Disneyland ac ymddangosiadau personol gan Nash.

Marwolaeth golygu

 
Bedd Clarence a Margaret Nash

Bu farw Nash o lewcemia mewn ysbyty yn Burbank, California yn 80 mlwydd oed.[5] Claddwyd ei weddillion ym mynwent San Fernando Mission, Los Angeles, California wrth ochr Margaret ei wraig. Mae cerfiad ar eu carreg bedd o Daisy a Donald Duck yn dal dwylo.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 D23 DISNEY LEGEND - CLARENCE NASH adalwyd 19 Hyfref 2018
  2. Blitz, Marcia (1979). Donald Duck. New York: Harmony Books. p. 19. ISBN 0-517-52961-0.
  3. Clarence Nash ar IMDb adalwyd 19 Hyfref 2018
  4. "What's My Line". YouTube. Cyrchwyd 2018-10-19.
  5. "50-Year Career : Clarence Nash, Donald Duck's Voice, Dies". LA Times. 1985-02-21. Cyrchwyd 2018-10-19.
  6. Find a grave Clarence Nash adalwyd 19 Hyfref 2018