Cleddyfa

camp o ymladd gan ddefnyddio cleddyfau tenau iawn.

Cleddyfa yw'r grefft ymladd â chleddyf. Cafodd ei datblygu yn wreiddiol ar faes y gad, ac wedyn, fel ffordd o amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iawn hyd at farwolaeth un o'r gornestwyr).

Cleddyfa
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Mathcombat sport, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysQ3381658, attack Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cleddyfa yn Gemau Olympaidd Athen

Heddiw, mae cleddyfa mor boblogaidd ag erioed, ond nid mor ddifrifol, ac ychydig iawn sy'n cael eu hanafu.[1] Fe'i defnyddir yn bennaf fel mabolgamp neu i archwilio ffurfiau hanesyddol o groesi cleddyfau. Mae cleddyfa yn un o bedair camp sydd wedi ymddangos ym mhob Gemau Olympaidd Modern ers 1896. Y gweddill yw athletau, seiclo, nofio a gymnasteg.

Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar gleddyfa fel mabolgamp orllewinol fodern, a cheir sôn am gleddyfa hanesyddol a chleddyfa dwyreiniol.

Y Chwarae Modern golygu

Fideo hanesyddol o gleddyfa yn yr Iseldiroedd

Tri math o gleddyf sy'n cael eu ddefnyddio heddiw: ffwyl, cleddyf blaenbwl (épée) a sabr. Mae rheolau'r tri math o gleddyfa yn wahanol ond yn gysylltiedig.

Corff llywodraethol golygu

Yn 1913 cafodd corff llywodraethol cleddyfa, y FIE (Fédération Internationale d'Escrime), ei sefydlu fel dilyniant i'r Société d'encouragement de l'escrime.[2] Dim ond pedwar pennaeth syth wedi rheoli'r FIE, a'r pennaeth presennol ydy Alisher Usmanov.

Cyffredinol golygu

Mae gornest cleddyfa yn digwydd ar piste, sef man hir a chul (14m x 1.5 i 2m), rhwng dau gleddyfwr. Nod yr ornest yw taro eich gwrthwynebwr ar y targed cleddyfa. Rhoddir pwynt am drawiad cywir, ac fel arfer mae'r ornest yn parhau nes i'r cyntaf gyrraedd 5 pwynt, ond weithiau 10 neu 15 yw'r swm. Ac mae cystadleuaeth tîm yn mynd hyd at 45 pwynt.

Mae'r ddau gleddyfwr yn gwisgo siwt gwyn, gan gynnwys mwgwd, maneg (ar y llaw sy'n dal y cleddyf yn unig), siaced a phlastron (h.y. siaced fach sy'n mynd o dan y brif siaced i roi amddyfiniad ychwanegol i'r corff), trowsus pen-glin, sanau hirion ac esgidiau. Fel arfer, mewn cystadleuaeth, defnyddir offer trydanol i gadw'r sgor, felly mae'n rhaid i'r cleddyfwyr wisgo gwifrau o dan y siaced hefyd. Gyda'r sabr a'r ffwyl, bydd y cleddyfwyr yn gwisgo siaced ychwanegol o’r enw'r lamé.

Ffwyl

 
Y targed cleddyfa sy'n wyrdd

Dyma'r cleddyf ysgafnaf, gyda llafn petryalog a hyblyg. Datblygodd y ffwyl (Ffrangeg: florette, Saesneg: foil) yn wreiddiol ar gyfer hyffordiant; mae hyn yn esbonio'r targed sef y torso, neu leoliad yr organau hanfodol. Yn 2009, estynnodd y FIE (Fédération Internationale d'Escrime) y targed i gynnwys y gwddf - i gleddyfwyr dros 13 blwydd oed.[3] Mae rheoli'r pwynt (point control) yn hanfodol i gleddyfwr, gan fod cyffyrddiad â'r fraich, y goes neu â'r mwgwd yn dileu'r pwynt sy'n dilyn. Fel rhan o'i ymarfer, bydd cleddyfwr yn ail-wneud ergyd dro ar ôl tro i ddatblygu cof y cyhyrau ac i ddod yn fanwl gywir. I sgorio, bydd cleddyfwr yn cydsymud ei fraich a'i droedwaith. Gan fod amseriad da yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng taro'r gwrthwynebwr neu beidio. Ar y lefel uchaf, gall milimedrau a hanner eiliadau fod y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli. Mae sbring coil o fewn pen y ffwyl, a rhoddir pwyntiau am lanio'r ffwyl ar y targed gyda thua 5 Newton o bwysedd. Bydd cleddyfwr yn gwisgo siaced o ddefnydd metelig, sef y lamé a gwifren ben sy'n cysylltu â'r mwgwd. Mae'r ergydion yn cael eu nodi ar beiriant electronig. Os bydd y cleddyfwr yn taro'n syth ar darged, bydd golau lliwgar, gwyrdd (dde) neu goch (chwyth) yn goleuo a golau gwyn pan fo'r coesau, pen y mwgwd, neu'r breichiau'n cael eu taro.

Rheolau hawl i dramwyo golygu

 
Y forte, gwaelod y llafn a'r foilbe, y 2/3 uchaf

Fel sabr, mae ffwyl yn cael ei ddehongli trwy reolau hawl i dramwyo (right of way). Wrth inni edrych ar symudiad cleddyfa, mae'n rhaid cwestiynu bwriad y cleddyfwr yng nghyd-destun ei wrthwynebwr.[4] Er enghraifft, os bydd un cleddyfwr yn ymosod a'r llall yn gwrthymosod, mae'r pwynt yn mynd i'r person a ymosododd. Bydd dyfarnwr yn dynodi blaenoriaeth i'r cleddyfwr sy'n ymosod. Diffiniad y FIE o ymosodiad ydy: Symudiad blaenorol trwy estyn y fraich a bygythio'r targed cleddyfa yn barhaol t.7.1.[5].

Bydd dyfarnwr hefyd yn dehongli llwyddiannt yr ymosodiad. Er enghraifft, bydd oedi, plygu'r fraich wrth ymosod neu chwilio am gleddyf y gwrthwynebwr, yn cael i ddehongli fel y cleddyfwr yn paratoi. O dan yr amodau hyn, bydd dyfarnwr yn gwobrwyo gwrthymosod llwyddiannus. Bydd taro cleddyf y gwrthwynebwr, wrth symud ymlaen, hefyd yn rhoi blaenoriaeth. Ond rhaid i'r ergyd ddigwydd ar 2/3 uchaf (foilbe) y cleddyf. Ffurf arall i sefydlu blaenoriaeth ydy pwynt yn unol (point in line). Bydd cleddyfwr yn ymestyn braich syth tuag at y targed cyn i'r gwrthwynebwr ymosod. Ond collir y pwynt yn unol os bydd y cleddyfwr yn camu ymlaen neu wrth i'r gwrthwynebwr daro'r cleddyf.

Mae gwahanol ffyrdd o allu adennill blaenoriaeth. Enghraifft seml ydy osgoi'r ymosodiad naill ai drwy droedwaith (camu yn ôl), symudiad corff (neidio, dowcio) neu trwy gyfuniad o'r ddau. Bydd pario, sef blocio cleddyf eich gwrthwynebwr gyda forte eich cleddyf, hefyd yn adennill blaenoriaeth. I ennill pwynt, bydd rhaid i'r cleddyfwr wneud riposte (ymosodiad sy'n dilyn y parry) llwyddiannus ac osgoi counter-riposte (riposte sy'n dilyn parry llwyddiannus ar riposte neu counter-riposte y gwrthwynebwr).

Cleddyf Blaenbwl golygu

 
Mae'r targed yn cynnwys popeth heb law am y cleddyf a'r llawr.

Mae'r cleddyf blaenbwl (Ffrangeg/Saesneg: épée) yn edrych ar yr olwg gyntaf fel fersiwn mwy a thrymach o'r ffwyl. Ond, wrth edrych yn fanwl, gwelir sawl wahaniaeth. Yn gyntaf, mae'r llafn wedi ei chynllunio'n wahanol. Yn lle llafn betryalog, mae'r cleddyf wedi ei greu trwy blygu darn o dir mewn i siâp V. Y gwahaniaeth nesaf ydy siâp y gard, mae'n ddyfnach sy'n golygu mwy o amddiffyn i'r llaw. Ac yn olaf, mae'r wifren gorff a'r soced yn unigryw. Tarddiad y cleddyf blaenbwl ydy'r duelling sword gan fod y targed yn cynnwys popeth. Mewn gornest glasurol, bydd ergyd yn golygu colli gwaed. Ac mae'r egwyddor hon yn cael ei hadlewyrchu yn y fabolgamp fodern lle rhoddir pwyntiau am lanio'r cleddyf unrhyw le ar y gwrthwynebydd. Ond nid yw taro cleddyf y gwrthwynebwr neu'r llawr yn cyfrif.

Mae'r targed yn cael ei rannu'n dair - y targed agosaf, sef y fraich blaen y goes; y targed canol, sef y bongorff a'r pen; a'r targed pellaf, sef y goes a'r fraich bellaf i ffwrdd. Does dim rheolau hawl i dramwyo (right of way) mewn cleddyfa blaenbwl, felly, os bydd dau gleddyfwr yn taro ei gilydd, mae'r ddau'n cael pwyntiau. Mae'n golygu bod cleddyfwyr yn tueddu i fod yn fwy amyneddgar a gwyliadwrus o'u cymharol â rhai ffwyl a sabr. Gall ymosodiad brwd roi cyfle euraid i'r gwrthwynebwr i sgorio pwynt ar flaen y targed. Mae'r pellter rhwng y cleddyfwyr yn tueddu i fod yn fwy o'i gymharol â rhai ffwyl. Felly, mae gwrthymosod yn tueddu i fod yn fwy poblogaidd o'i gymharu â parry riposte.

Sabr golygu

 
Y targed cleddyfa sy'n wyrdd.

Yn wahanol i'r ddau gleddyf arall, lle sgorir pwynt yn unig, mae'r sabr yn defnyddio min y llafn hefyd. Oherwydd hynny, mae ei dechneg yn eitha gwahanol. Allan o’r tri, mae'r nifer fwyaf o newidiadau wedi digwydd i sabr dros y blynyddoedd. Tarddiad y sabr modern ydy'r Scimitar Arabaidd, a fabwysiadwyd gan Ymerodraeth yr Otomaniaid a Llwythau Hwngari yn yr 16eg ganrif. Erbyn yr 18fed ganrif, fe'i gwelid ar draws Ewrop yn nwylo Marchfilwyr. Defnyddid cleddyfau â llafn eang, ac roedd milwyr yn tueddu i'w defnyddio nhw i slaesio. Mae hyn yn esbonio nodweddion y fabolgamp frn; defnydd min y llafn ar darged cleddyfa, sef pen ucha'r corff. Datblygwyd y Sabr Modern yn yr Eidal yn y 19eg ganrif.[6] Aeth y sabr yn ysgafnach, llafn fwy cul, a newidiwyd y dechneg, felly roedd llai o bwyslais ar y benelin. Nawr bydd symudiad yn dechrau gyda'r bysedd a'r arddwrn. Newidiodd y pwyslais o greu llanastr ar faes y gad i symudiadau cyflym ac effeithlon y fabolgamp fodern.

Doedd offer trydanol ddim wedi cael eu datblygu ar gyfer Sabr tan 1988, sef 32 flynedd ar ôl y ffwyl a 52 flynedd ar ôl y cleddyf blaenbwl. Cyn hynny, câi'r Sabr ei ddyfarnu trwy olwg. Ac i wneud pethau yn anos i'r dyfarnwr, mae sabr yn cael ei ddehongli trwy reolau hawl i dramwyo fel y ffwyl.

Gwisg Cleddyfa golygu

Mae’r rhan fwyaf o wisg cleddyfa (Siaced, Clos peng-lin a Phlastron) yn cael i brofi gyda safonau diogelwch Newton (N)

 
Clos pen-glin
  • Amddiffynnydd y frest Wedi ei wneud o blastig a wisgir o dan blastron i amddiffyn y frest. Mae’n orfodol i ferched ac yn gyffredin ymhlith cleddyfwyr o ddynion ifainc a feteraniaid
  • Bib Darn o’r mwgwd sy’n gorchuddio’r gwddwg
  • Clos pen-glin Ddillad sy’n amddiffyn y pengliniau at y llinell wasg; mae'n orfodol i'r siaced allu gorgyffwrdd 10 cm o'r clos pen-glin. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dod â gardysau
  • Esgidiau cleddyfa Esgidiau sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer cleddyfa
  • Hosanau Dilledyn ar gyfer y droed a rhan isaf y goes sy’n gorchuddio yn union dan y pen-glin
  • Lamé Wedi ei greu o ddeunydd trydanol dargludol, fe’i gwisgir gan gleddyfwyr ffwyl a sabr er mwyn diffinio'r ardal sgorio
     
    Siaced
  • Manchette Gorchudd maneg arbennig wedi ei wneud o ddeunydd trydanol dargludol. Fe’i gwisgir weithiau gan gleddyfwyr sabr ynghyd â lamé i estyn y targed
  • Maneg Yn cael ei gwisgo i amddiffyn llaw’r cleddyf, mae gan y faneg dyrnfol sy'n atal llafnau rhag mynd i fyny’r llewys ac achosi anaf
  • Mwgwd Wedi ei wisgo gan y cleddyfwr i amddiffyn y pen, mae gwifrog dur y mwgwd yn gadael i'r cleddyfwr weld
  • Plastron Dilledyn sy’n cael ei wisgo o dan y siaced; diben y plastron yw amddiffyn y corff rhag ofn i sêm y siaced dorri
  • Siaced Dilledyn wedi ei wneud o ddeunydd 350 neu 800 Newton, mae’r siaced yn gorchuddio’r breichiau a'r corff. Yn dibynnu ar y siaced, mae ganddynt blaen neu sip ôl
  • Stribyn cenedlaethol Deunydd addurnol sy’n dynodi pa wlad mae cleddyfwr yn ei chynrychioli
     
    Lame
 
Amddiffynnydd y frest
Amddiffynnydd y frest 
 
Hosannau
Hosannau 
 
Maneg
Maneg 
 
Mwgwd
Mwgwd 

Am restr fanwl cliciwch y linc Rhestr Cyfarpar Cleddyfa

Rhestr Termau Cleddyfa golygu

Rhestr Termau Cleddyfa

Troedwaith golygu

Defnyddiwyd ffurf gwbl unigryw i allu symud wrth cleddyfa. Mae troedwaith yn hynod o syml, ond i feistri, mae’n cymryd amser, ymarfer ac amynedd. Yn gyntaf, rhaid dod yn gyfarwydd â'r safle en guard. Bydd cleddyfwr yn sefyll gyda'i choesau mewn siâp L gyda'r goes flaen (sy'n cyd-fynd ar law sy'n dal y cleddyf) yn pwyntio tuag at y gwrthwynebwr. Hefyd bydd cleddyfwr yn plygu ei choesau gyda ei phenliniau dros yr esgidiau. Mae hyn yn helpu cydbwysedd a chraidd disgyrchiant.

Camu Ymlaen golygu

Yn gyntaf symudwch eich coes blaen. Rydych eisiau glanio’r goes, felly bydd y sawdl yn cyffwrdd â'r llawr. Yn syth ar ôl hyn, rydych eisiau trosglwyddo'r pwysau ymlaen a gadael i'r gwadn gyffwrdd â'r llawr. Wrth wneud hyn, symudwch eich coes ôl, a chwblhewch y cam. Rydym wedi cymryd cam ymlaen.

 

Camu Yn Ôl golygu

Mae’r dechneg yn debyg iawn ond, y tro hwn, rydym yn arwain gyda’r troed ôl yn hytrach na'r troed blaen. Symudwch eich coes ôl. Rydych eisiau ongli, felly mae’r gwadn yn cyffwrdd a'r llawr. Wedyn, trosglwyddwch eich pwysau am yn ôl. Wrth wneud hyn, symudwch eich coes blaen. I gwblhau’r cam, rhowch eich esgid ôl yn fflat ar y llawr.

 

Cleddyfwyr Nodweddiadol golygu

  • Nedo Nadi (1894 – 1940)   - Enillodd chwe medal aur yn ei yrfa, tri yn y ffwyl, dau yn y sabr ac un yn y cleddyf Blaenplwyf. Ynn Ngemau Olympaidd Antwerp 1920, enillwyd Nedo fedal aur ym mhob arf, yr unig berson i wneud hynny.
  • Ildikó Újlaky-Rejtő (1937 - heddiw)   - Enillodd hi ennill chwe medal Olympaidd rhwng Rhufain 1960 a Montreal 1976. Fel athletwraig fyddar, dysgodd hi sut i gleddyfa trwy ddarllen cyfarwyddiadau.
  • Valentina Vezzali (1974 - heddiw)   - Gyda naw medal Olympaidd rhwng pump o gemau haf, Atlanta 1996 i Lundain 2012, Valentina ydy’r cleddyfwraig fwyaf llwyddiannus erioed. Dim ond un o bedwar athletwr i ennill pum medal yn yr un gystadleuaeth.
  • Mariel Zagunis (1985 - heddiw)   - Y fenyw gntaf i ennill medal aur sabr. Hefyd enillodd hi aur yng Ngemau Beijing 2008.

Cleddyfa Hanesyddol golygu

Datblygodd y cleddyf main (neu'r rapier) a'r cleddyf bychan allan o gleddyfau cynharach ac, yn eu tro, fe ddaethant yn ffwyl a'r cleddyf blaenbwl modern.

Datblygwyd Cleddyfa Mabolgampaidd o sawl math gwahanol o gleddyfa hanesyddol ledled Ewrop, gyda phob un â'i nodweddion cenedlaethol ei hunan. Yn ogystal ag amrywio rhwng gwledydd, mae nodweddion cleddyfa hanesyddol yn newid rhwng gwahanol oesau, megis yr Oesoedd Canol, y Dadeni Dysg a'r Cyfnod Modern Cynnar. Ceir y testun cynharaf o gleddyfa hanesyddol gorllewinol ("Historical Western Martial Arts") yn archifau'r Almaen I.33 , testun sy'n dyddio i'r Oesoedd Canol.

Ers diwedd yr 20g, cynyddodd y diddordeb mewn ail-greu Cleddyfa Hanesyddol o'r testunau gwreiddiol, gyda chymorth twf y rhyngrwyd. Mae nifer o grwpiau ledled y byd yn ymddiddori mewn gwahanol arfau, adegau a thechnegau. Ym Mhrydain, mae nifer ohonynt yn cwrdd o dan faner Ffederasiwn Cleddyfa Hanesyddol Brydain (BFHS), sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac sy'n hybu rhannu gwybodaeth yn gorfforol ac yn ddamcaniaethol.

Ar hyn o bryd, does dim gwybodaeth am unrhyw femrwn ar gleddyfa hanesyddol Cymraeg ar wahân i'r testun y Pedwar Camp ar Hugain, dogfen a ymyrrwyd ynddi gan Iolo Morganwg yn y 18g (gweler Pedair Camp ar Hugain)

Cleddyfa Dwyreiniol golygu

Datblygodd cleddyfau a chleddyfa yn wahanol iawn yn y gorllewin ac yn y dwyrain.

Cafodd y clefydd le pwysig iawn yn niwylliant Japan, fel prif arf y samurai. Mae sawl crefft ymladd Japanïaidd yn ymwneud â'r cleddyf, e.e. kendo, iaijutsu. Caiff le pwysig mewn crefftau megis aicido hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-09. Cyrchwyd 2017-07-07.
  2. http://fie.org/fie/structure
  3. http://static.fie.org/uploads/8/40842-2015-12-15-liste-des-masques-de-fleuret-avec-bavette-conductrice-m2009-homologues-fie.pdf
  4. https://gethylogic.wordpress.com/2016/01/13/cleddyfa-pa-bwriad/[dolen marw]
  5. http://www.britishfencing.com/uploads/files/book_t_-_20151210.pdf
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2017-07-03.