Clefyd coronaidd y galon

Mae clefyd coronaidd y galon (CHD) yn digwydd pan gaiff y cyflenwad gwaed i gyhyrau'r galon gael ei rwystro neu ei atal. Mae hyn yn digwydd drwy broses a elwir yn atherosglerosis pan fydd waliau rhydwelïau'r galon yn cennu gyda dyddodion brasterog. Gelwir y dyddodion brasterog yn atheroma. Mae'r cennu hwn yn cyfyngu ar lif y gwaed, gan arwain i gyflenwad isel o ocsigen i gyhyrau'r galon. Gall hyn achosi poenau yn y frest a elwir yn angina. Os yw rhydwelïau'r galon yn cael eu rhwystro'n llwyr gall hyn achosi trawiad ar y galon - cnawdychiad myocardiaidd. Clefyd coronaidd y galon (CHD) yw

Clefyd coronaidd y galon
Enghraifft o'r canlynoldevelopmental defect during embryogenesis, clefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd y galon, anhwylder cynhenid, cardiovascular abnormality, genetic cardiac disease, anhwylder genetig, rare genetic developmental defect during embryogenesis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map y byd efo anomaleddau cynhenid y galon - Marwolaethau fesul miliwn o bobl-WHO2012

Clefyd coronaidd y galon yw lladdwr mwyaf y DU, gydag un o bob pedwar dyn ac un o bob chwe menyw yn marw o'r clefyd. Yn y DU, mae tua 300,000 o bobl yn cael trawiad ar y galon bob blwyddyn. Mae angina'n effeithio ar tua un o bob 50 person, ac yn y DU amcangyfrifir bod tua 1.2 miliwn o bobl gyda'r cyflwr. Mae'n effeithio ar ddynion yn fwy na menywod, ac mae eich tebygolrwydd o'i gael yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn.[1]

Achosion golygu

Caiff y risg o ddatblygu atherosglerosis ei gynyddu'n sylweddol gan:

Mae ysmygu'n brif ffactor risg. Mae carbon monocsid (o'r mwg) a nicotin yn rhoi straen ar y galon drwy wneud iddi weithio'n gyflymach. Maen nhw hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd y gwaed yn ceulo. Mae cemegion eraill mewn mwg sigaréts yn niweidio'r rhydwelïau coronaidd, gan achosi cennu yn y rhydwelïau. Gellir priodoli tua 20% o farwolaethau cysylltiedig â CHD mewn dynion a 17% mewn menywod i ysmygu.

Symptomau golygu

Os yw'r rhydwelïau coronaidd yn blocio'n rhannol, gall hyn achosi poen yn y frest (angina). Os ydynt yn cael eu blocio'n llwyr, gall achosi trawiad ar y galon (cnawdychiad myocardiaidd). Mae angina'n symptom o glefyd coronaidd y galon. Gall fod yn deimlad ysgafn, anghyffyrddus sy'n teimlo'n debyg i ddiffyg traul. Fodd bynnag, gall trawiad difrifol o angina achosi teimlad o drymder neu dyndra, fel rheol yng nghanol y frest, a all ymledu i'r breichiau, gwddf, safn, cefn neu stumog.

Yn aml mae angina’n cychwyn oherwydd gweithgaredd corfforol neu sefyllfaoedd ingol emosiynol. Fel rheol mae'r symptomau'n diflannu ar ôl 10-15 munud a gellir eu lleddfu trwy orffwys, neu ddefnyddio chwistrell neu dabled nitrad.

Mae'r anghysur neu'r boen o drawiad ar y galon yn debyg i angina, ond yn aml mae'n fwy difrifol. Yn ystod trawiad ar y galon gellir hefyd profi'r symptomau canlynol:

Gall symptomau trawiad ar y galon fod yn debyg i ddiffyg traul. Er enghraifft, gallant gynnwys teimlad o drymder yn eich brest, cur yn y stumog neu losg cylla. Gall trawiad ar y galon ddigwydd ar unrhyw adeg, yn cynnwys wrth orffwys. Os yw'r symptomau'n para'n hirach na 15 munud, mae'n debygol o fod yn drawiad ar y galon.

I ddynion, cynyddir y tebygrwydd o ddatblygu atherosglerosis os yw aelod agos o'r teulu o'r un rhyw (tad neu frawd) wedi cael trawiad ar y galon neu angina cyn 55 oed. I fenywod, cynyddir y risg os yw aelod agos o'r teulu (mam neu chwaer) wedi cael trawiad ar y galon neu angina cyn 65 oed.

Diagnosis golygu

Defnyddir nifer o wahanol brofion i ddiagnosio problemau cysylltiedig â'r galon yn cynnwys: • angiogram coronaiddelectrocardiogram (ECG) • delweddu cyseiniant magnetig (MRI) • profion radioniwclid • phrofi electroffisiolegol

Triniaeth golygu

Ceir llawer o ffyrdd o drin clefyd rhydwelïau coronaidd a phroblemau cardiofasgwlar cysylltiedig. Mae rhai o'r rhain yn benodol iawn i glefyd y galon. Mae eraill, fel rheoli pwysedd y gwaed, yn lleihau'r risgiau o nifer o fethiannau posibl (e.e. strôc, methiant aren). Rhestrir rhai o'r triniaethau a ddefnyddir yn gyffredin isod. Gellir defnyddio aspirin dos isel, moddion sy'n amharu ar dolchennau gwrthgeulyddol i leihau’r posibilrwydd o dolchennau ac o'r herwydd i leihau'r tebygrwydd o flociad. Gellir defnyddio statinau i leihau cholesterol LDL (drwg), ac felly annog atheroma i beidio â chynyddu.

Mae cyffuriau sy'n lleihau pwysedd y gwaed fel blocwyr beta, gwrthweithyddion derbynnydd angiotensin neu wrthweithyddion ACE yn cyfyngu ar ba mor galed mae'r galon yn gweithio, gan leihau'r angen am ocsigen i gyhyrau'r galon. Gan fod yna lai o rym yn llif y gwaed maen nhw hefyd yn lleihau'r tebygolrwydd o ryddhau tolchennau o waliau sydd wedi tewychu, ac o'r herwydd y tebygrwydd o flociad. Gellir defnyddio fasoymledwyr fel nitradau i laesu waliau'r rhydwelïau gan wneud y llwybr yn ehangach ac o'r herwydd lleihau pwysedd y gwaed a'r straen ar y galon. Mae'r rhain yn gweithredu’n gyflym ac fe'u defnyddir yn aml mewn ymyrraeth argyfwng i leddfu angina neu drawiad ar y galon drwgdybiedig.

Mae'r dulliau llawdriniaeth sy'n effeithiol yn cynnwys angioplasty (agor rhydweli sydd wedi culhau) neu driniaeth osgoi (creu llwybr gwahanol i'r gwaed o gwmpas y blociad) ac mewn achosion eithafol, trawsblaniad calon.

Os yw'r pibellau gwaed yn gul iawn o ganlyniad i atheroma (dyddodion brasterog) yn ymgasglu, neu os na ellir rheoli'r symptomau drwy ddefnyddio meddyginiaeth, efallai bydd angen llawdriniaeth i agor neu i gymryd lle'r rhydwelïau caeedig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)