Clefyd cronig yr arennau

Mae clefyd cronig yr arennau (CKD) yn glefyd arennau sy'n achosi i'w swyddogaeth ddirywio'n raddol dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd.[1] Ni ymddangosir symptomau ar ddechrau'r cyflwr fel rheol. Mae modd i'r clefyd arwain at sgil-effeithiau diweddarach, gan gynnwys chwyddo yn y coesau, blinder, chwydu, colli awydd bwyta, neu ddryswch datblygol. Gall achosi gymhlethdodau megis clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, clefyd esgyrn, neu anemia..[2]

Clefyd cronig yr arennau
Enghraifft o'r canlynolclefyd cronig, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathmethiant yr arennau, clefyd yr arennau, chronic renal disease, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall y canlynol arwain at glefyd cronig yr arennau; clefyd y siwgwr, pwysedd gwaed uchel, glomeruloneffritis, a chlefyd arennau polycystig.[3] Mae ffactorau risg yn cynnwys hanes teuluol o'r cyflwr. Yn gyffredinol, gwneir diagnosis ar sail profion gwaed er mwyn archwilio cyfradd hidlif glomerwlaidd ynghyd â phrofion dŵr sy'n  mesur albwmin.[4] Gellir cynnal profion pellach fel uwchsain neu biopsi aren er mwyn canfod yr achos sylfaenol. Mae nifer o wahanol systemau dosbarthu yn bodoli.[5]

Argymhellir sganio pobl sydd oddi tan risg. Gall triniaethau cychwynnol gynnwys meddyginiaethau i reoli'r pwysedd gwaed, lefelau siwgr yn y gwaed, a cholesterol isel. Dylid osgoi NSAIDau.[6] Mae'r dulliau gwarchodol eraill yn cynnwys cadw'n heini a mân newidiadau dietegol. Mewn achosion difrifol o'r cyflwr mae'n bosib y bydd angen hemodialysis, dialysis peritoneol, neu drawsblaniad aren.[7] Weithiau bydd yn ofynnol derbyn triniaethau ar gyfer anemia a chlefyd esgyrn hefyd.[8]

Yn 2015 effeithiodd clefyd cronig yr arennau ar oddeutu 323 miliwn o bobl yn fyd-eang.[9] Arweiniodd at 1.2 miliwn o farwolaethau yn yr un flwyddyn, cynnydd o'r 409,000 a welwyd ym 1990.[10] Ymhlith yr achosion sy'n arwain at y fwyaf o farwolaethau y mae pwysedd gwaed uchel (550,000), clefyd y siwgr (418,000), a glomeruloneffritis (238,000).

Cyfeiriadau golygu

  1. "What Is Chronic Kidney Disease?". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. June 2017. Cyrchwyd 19 December 2017.
  2. Liao, Min-Tser; Sung, Chih-Chien; Hung, Kuo-Chin; Wu, Chia-Chao; Lo, Lan; Lu, Kuo-Cheng (2012). "Insulin Resistance in Patients with Chronic Kidney Disease". Journal of Biomedicine and Biotechnology 2012: 1–5. doi:10.1155/2012/691369. PMC 3420350. PMID 22919275. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3420350.
  3. "What is renal failure?". Johns Hopkins Medicine (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 December 2017.
  4. "Chronic Kidney Disease Tests & Diagnosis". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. October 2016. Cyrchwyd 19 December 2017.
  5. "Summary of Recommendation Statements". Kidney International Supplement 3 (1): 5–14. January 2013. doi:10.1038/kisup.2012.77.
  6. "Managing Chronic Kidney Disease". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. October 2016.
  7. "Kidney Failure". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. Cyrchwyd 11 November 2017.
  8. "Anemia in Chronic Kidney Disease". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. July 2016. Cyrchwyd 19 December 2017.
  9. GBD 2015 Disease and Injury Incidence and Prevalence, Collaborators. (8 October 2016). "Global, regional, and national incidence, prevalence, and years lived with disability for 310 diseases and injuries, 1990-2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1545–1602. PMID 27733282.
  10. GBD 2015 Mortality and Causes of Death, Collaborators. (8 October 2016). "Global, regional, and national life expectancy, all-cause mortality, and cause-specific mortality for 249 causes of death, 1980-2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1459–1544. PMID 27733281.