Clifford Evans

actor o Gymru

Roedd Clifford George Evans (17 Chwefror 19129 Mehefin 1985) yn actor Cymreig.

Clifford Evans
Ganwyd17 Chwefror 1912 Edit this on Wikidata
Senghennydd Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1985 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodHermione Hannen Edit this on Wikidata

Yn ystod haf 1934 ymddangosodd Evans yn A Midsummer Night's Dream yn yr Open Air Theatre yn Llundain. Chwaraeodd sawl rhan mewn ffilmiau Prydeinig o'r 1930au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn wrthwynebydd cydwybodol, yn gwasanaethu yn y Corfflu Di-frwydr. Parhaodd i actio yn ystod y rhyfel agan serennu yn y ffilmiau The Foreman Went to Ffrance (1942) [1] a The Flemish Farm (1943).

Ar ôl y rhyfel, rolau ffilm mwyaf adnabyddus Evans oedd i Hammer Studios : chwaraeodd Don Alfredo Carledo yn Curse of the Werewolf (1961) a'r Athro Zimmer, heliwr fampir meddw, yn The Kiss of the Vampire (1963).[2] Efallai mae ei rôl ffilm olaf oedd Dylan (1978).

Ar y teledu, ymddangosodd Evans gyda George Woodbridge a Tim Turner yn y gyfres Stryker of the Yard am 15-pennod (1957). Rhwng 1965 a 1969, chwaraeodd ran flaenllaw yn y ddrama deledu am ddiwydiant The Power Game, yn chwarae rhan y teicŵn adeiladu, Caswell Bligh.[3] Mae hefyd ymhlith nifer o actorion Prydeinig i chwarae cymeriad Rhif Dau yn The Prisoner (" Do Not Forsake Me Oh Oh My Darling ", 1967). Ymddangosodd hefyd mewn tair pennod o The Avengers, yn The Champions, The Saint, a Randall a Hopkirk (Deceased) ("When did You Start to Stop Seeing Things?", 1969). Y flwyddyn ganlynol, chwaraeodd Syr Iain Dalzell, un o brif gymeriadau cyfres deledu'r BBC Codename (1970).

Priododd Hermione Hannen, a oedd yn actores.[4]

Ffilmyddiaeth rhannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Foreman went to France". BBFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-24. Cyrchwyd 8 August 2016. Lists the actor as Evens not Evans
  2. Bergan, Ronald (20 December 2011). "Don Sharp obituary". The Guardian. Cyrchwyd 8 August 2016.
  3. Hayward, Anthony (24 October 2006). "Peter Barkworth Obituary". The Independent. Cyrchwyd 8 August 2016.
  4. "Hermione Hannen Biography". IMDB. Cyrchwyd 8 August 2016.
  5. "Welsh film history: 1940-49". BBC Wales. BBC. 5 March 2010. Cyrchwyd 8 August 2016.

Dolenni allanol golygu