Clo sy'n cael ei osod i mewn i dwll neu "mortis" yn y drws yw clo mortis.

Drws day glo, un ar belen y drws a chlo mortis ar wahân.

Mae cloeon mortis traddodiadol yn gweithio ar system liferau sydd yn rhaid eu codi i'r uchder cywir er mwyn tynnu'r bollt yn ei ôl. Ym Mhrydain mae cloeon lifer traddodiadol wedi eu datblygu i fod yn gloeon o safon uchel iawn.

Yng ngweddill y byd mae cloeon mortis lifer yn hen ffasiwn iawn, ac yn cynnig dim ond lefel isel o ddiogelwch. Yn y gwledydd yma, a fwyfwy ym Mhrydain oherwydd rheolau diogelwch tân, mae cloeon mortis efo silindr yn llawer mwy cyfarwydd.