Clochdar y cerrig

isrywogaeth o adar
Clochdar y Cerrig
Ceiliog yng Nghymru; llun gan Alun Williams
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Saxicola
Rhywogaeth: S. rubicola
Enw deuenwol
Saxicola rubicola
(Linnaeus, 1766)

Mae Clochdar y Cerrig (Saxicola rubicola) yn aelod o'r genws Saxicola sy'n gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, rhan o Ogledd Affrica a Thwrci.

Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mewn rhannau o'r byd lle mae'r gaeafau yn oer mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin. Mae'n nythu ar wahanol fathau o dir diffaith lle mae llwyni yma ac acw, yn enwedig o gwmpas glan y môr.

Saxicola rubicola

Gellir adnabod Clochdar y Cerrig yn hawdd, yn enwedig y ceiliog gyda'i ben du, ei gefn du, ei wddf a'i fron oren a'i fol gwyn, gyda rhannau gwyn ar ochr ei wddf a'i adenydd. Nid yw'r iâr mor lliwgar; mae'n fwy brown a heb y rhannau gwyn. Pan mae'n hedfan, gellir ei adnabod trwy fod y gynffon yn fyrrach na chynffon y rhan fwyaf o'r adar bychain eraill. O ran maint, mae ychydig yn llai na'r Robin Goch.

Mae Clochdar y Cerrig yn aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, yn enwedig o gwmpas glan y môr.