Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus, mwy adnabyddus fel Clodius Albinus (25 Tachwedd 14719 Chwefror 197). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.

Clodius Albinus
Ganwyd150 Edit this on Wikidata
Hadrumetum Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 197 Edit this on Wikidata
Lugdunum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadCeionius Postumius Edit this on Wikidata
MamAurelia Messalina Edit this on Wikidata
PlantPescennius Princus Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Hadrumetum, yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel Avidius Cassius yn 175; ysgrifennodd yr ymerawdwr Marcus Aurelius ddau lythyr ato yn ei ganmol.

Daeth yn llywodraethwr talaith Gallia Belgica ac yna yn llywodraethwr Prydain. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Pescennius Níger yn Syria, Septimius Severus yn Pannonia ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng Ngâl hefyd.

Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger Lugdunum ar 19 Chwefror 197, a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato