Club Nacional de Football


Mae Clwb Cenedlaethol Pêl-droed (sbaeneg: Club Nacional de Football) yn glwb pêl-droed o Montevideo, Wrwgwái, sy'n chwarae yn Primera División Uruguay (Uwch Gynghrair Wrwgwái). Ymunodd y clwb â'r gynghrair yn 1901, ac ennill y gynghrair am y tro cyntaf yn 1902. Fe'i ffurfwyd ym 1899, pan unwyd clybiau Montevideo Football Club (Clwb Pêl-droed Montevideo) ac Wrwgwái Athletic Club (Clwb Athletau Wrwgwái). Mae'r clwb yn chwarae yn stadiwm Gran Parque Central.

Nacional
Enw llawn Club Nacional de Football
Llysenw(au) tricolores (tri-lliwiog), bolsos
Sefydlwyd 1899
Maes Estadio Gran Parque Central (Stadiwm Fawr Parc Ganolog), Montevideo
Cadeirydd Baner Wrwgwái José Fuentes
Rheolwr Baner Wrwgwái Álvaro Gutiérrez
Cynghrair Primera División Wrwgwáia (Uwch Gynghrair Wrwgwái)
2016 1af

Y clwb oedd sylfaen Tîm Cenedlaethol Wrwgwái a enillodd y Gemau Olympaidd yr Haf yn 1924 a 1928, a Chwpan y Byd cyntaf erioed ym 1930.

Maent wedi ennill pedwar deg chwech pencampwriaethau cenedlaethol, ac un ar hugain o gystadlaethau rhyngwladol swyddogol, gan gynnwys tri Cwpan Rhyng-gyfandirol (cystadleuaeth rhwng pencampwyr De America ac Ewrop), tri Cwpan Libertadores , dwy Gwpan Rhyng-americanaidd ac un Recopa De America.

Anrhydeddau golygu

  • Pencampwriaeth Genedlaethol (46): 1902, 1903, 1912, 1915, 1916, 1917, 1919, 1920, 1922, 1923, 1924, 1933, 1934, 1939, 1940, 1941, 1942, 1943, 1946, 1947, 1950, 1952, 1955, 1956, 1957, 1963, 1966, 1969, 1970, 1971, 1972, 1977, 1980, 1983, 1992, 1998, 2000, 2001, 2002, 2005, 2005-06, 2008-09, 2010-11, 2011-12, 2014-15, 2016.
  • Cwpan Libertadores (3): 1971, 1980, 1988.
  • Cwpan Rhyng-gyfandirol (3): 1971, 1980, 1988.
  • Cwpan Rhyng-americanaidd (2): 1972, 1989.
  • Recopa De America (1): 1989.

Chwaraewyr nodedig golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Cwpan Rhyng-gyfandirol, Cwpan Ryng-americanaidd, Recopa De America o'r Saesneg "Intercontinental Cup, Copa Interamericana, Recopa Sudamericana". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.