Ffilm gomedi Americanaidd yw Clueless (1995). Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel Jane Austen Emma ond lleolir y ffilm mewn ysgol uwchradd yn Beverley Hills. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Amy Heckerling a chafodd ei chynhyrchu gan Scott Rudin. Rhyddhawyd y ffilm yn Unol Daleithiau America ar yr 19eg o Orffennaf, 1995. Mae'n serennu Alicia Silverstone, Paul Rudd, Jeremy Sisto, Stacey Dash, Donald Faison, Brittany Murphy a Dan Hedaya.

Clueless

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Amy Heckerling
Cynhyrchydd Scott Rudin
Twink Caplan
Ysgrifennwr Amy Heckerling
Serennu Alicia Silverstone
Dan Hedaya
Paul Rudd
Stacey Dash
Brittany Murphy
Donald Faison
Wallace Shawn
Twink Caplan
Sinematograffeg Bill Pope
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau 19 Gorffennaf, 1995
Amser rhedeg 97 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Bellach, mae gan y ffilm, a oedd mewn nifer o ffyrdd yn adlewyrchu'r genhedlaeth a bortreadwyd ynddi, statws eiconig o fewn ei genre ac arweiniodd at gyfres deledu a llyfrau.

Cymeriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.