Clwb Rygbi Aberystwyth

clwb rygbi tref Aberystwyth

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth RFC) yn dîm rygbi'r undeb o dref Aberystwyth. Mae'r clwb yn aelod o Undeb Rygbi Cymru ac yn glwb bwydo ar gyfer ochr ranbarthol y Scarlets.[2]

Aberystwyth RFC
Enw llawnClwb Rygbi Aberystwyth Rugby Football Club
UndebUndeb Rygbi Cymru
Sefydlwyd1947
LleoliadAberystwyth, Cymru
Maes/yddPlascrug
CadeiryddTim Lewis
HyfforddwrIestyn Thomas, Ifan Thomas, Craig Turner and Rob Rudge.
CaptenArwel Lloyd
Cynghrair/auAdran 1 Gorllewin URC
2017-20185th[1]
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gwefan swyddogol
www.aberystwythrfc.co.uk

Hanes golygu

Bu chware rygbi yn Aberystwyth ers diwedd y 19g [3] pan sefydlodd y Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth dîm rygbi.

Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberystwyth ym 1947 [3] ac roedd y gêm gyntaf yn erbyn ail dîm Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle collodd y tîm newydd o'r dre 24-3.[4] Enillodd y clwb aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru ym mis Mai 1954 a oedd yn caniatáu iddi gynnal gemau cystadleuol yn y dyfodol. Sefydlwyd clwb y tîm gyda chymorth benthyciad di-log deng mlynedd gan yr WRU ym 1960.

Mae arwyddlun y clwb yn darlunio fersiwn lliw glas o'r lle sydd ar faner Ceredigion gan nodi hanes a chysylltiad y clwb gyda'r dref a'r teulu Pryse, perchnogion stâd Gogerddan oedd perchen llawer o dir yng ngogledd Ceredigion a'r rheswm bod cymaint o dai tafarndai yng ngogledd y sir yn arddel yr enw Llew Du.

Timau golygu

Mae gan y Clwb 500 o aelodau sy'n cynnwys oedolion a phlant. Mae ganddynt 2 tim i oedolion, 1 tim iau a 10 tim i blant lan at 16 mlwydd oed.[5]

Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yn Adran 1 Gorllewin ("Division 1 West"), URC.[6]

Adeilad golygu

Mae'r clwb wedi ei lleoli yn ardal Plas-crug o'r dref, rhwng Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Adeiladwyd y Clwbfa gyntaf fel adeilad prefab yn 1960 on llosgodd yr adeilad hwnnw i'r llawr ac fe’i hailadeiladwyd yn y 1970au. Ers hynny, bu sawl helaethiad i'r adeilad gan gynnwys cyfleusterau newid newydd a lolfa.[4]

Oriel golygu

Lleolir maes chwarae C.R. Aberystwyth ar dir Plascrug rhyw un cilomedr o ganol tref Aberystwyth.

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881–1981. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. WRU official site Archifwyd 2010-11-30 yn y Peiriant Wayback.
  2. BBC News (2004-07-08). "Wales' regional rugby map". BBC. Cyrchwyd 2008-05-31.
  3. 3.0 3.1 'Smith (1980), p. 331
  4. 4.0 4.1 http://www.aberystwythrfc.mywru.co.uk/club-history
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-27. Cyrchwyd 2019-08-27.
  6. http://www.aberystwythrfc.mywru.co.uk/teams/260/1st-team

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.