Clydach, Sir Fynwy

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yng nghymuned Llanelli, Sir Fynwy, Cymru, yw Clydach.[1][2] Saif tua 3 milltir i'r gorllewin i dref Y Fenni. Mae'r pentref wedi ei rannu'n ddwy gan heol brysur Blaenau'r Cymoedd.

Clydach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8086°N 3.1255°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO225128 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map
Gweler hefyd Clydach (gwahaniaethu).

Tyfodd y pentref o gwmpas y gwaith dur ar ochr ddeheuol y cwm. Roedd yn ei anterth ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac erbyn heddiw, dim ond adfeilion sy’n weddill o’r gwaith. Mae’r gymuned bellach yn wledig ei natur a chymharol brin ei chyfleusterau. Ym mis Gorffennaf 2006, caewyd ysgol y pentref gan Gyngor Sir Fynwy.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-25.
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato