Cnocell fwyaf America

rhywogaeth o adar
Cnocell fwyaf America
Campephilus principalis

,

Statws cadwraeth

Mewn perygl difrifol, efallai diflanedig  (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Campephilus[*]
Rhywogaeth: Campephilus principalis
Enw deuenwol
Campephilus principalis

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fwyaf America (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau mwyaf America) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Campephilus principalis; yr enw Saesneg arno yw Ivory-billed woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. principalis, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America.


Teulu golygu

Mae'r cnocell fwyaf America yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cnocell Fawr America Dryocopus pileatus
 
Cnocell Folwen Dryocopus javensis
 
Cnocell Guayaquil Campephilus gayaquilensis
 
Cnocell Magellan Campephilus magellanicus
 
Cnocell Schulz Dryocopus schulzii
 
Cnocell biglwyd Campephilus guatemalensis
 
Cnocell braff Campephilus robustus
 
Cnocell ddu Dryocopus martius
 
Cnocell fronrhudd Campephilus haematogaster
 
Cnocell fwyaf America Campephilus principalis
 
Cnocell gopog gefnwen Campephilus leucopogon
 
Cnocell gribgoch Campephilus melanoleucos
 
Cnocell yddfgoch Campephilus rubricollis
 
Cnocell ymerodrol Campephilus imperialis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.


Difodiant golygu

Am 77 o flynyddoedd mae adarwyr wedi chwarae gêm o guddio gyda chnocell coed fwyaf America Campephilus principalis aderyn crand ond anodd ei weld a gafodd ei ddisgrifio fel "pendefig mawr llwyth y cnocellod”.

Cyhoeddodd Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau[1] ar 29 Medi 2021, fodd bynnag, ei fod yn bwriadu datgan bod yr aderyn bellach yn ffurfiol yn ddiflanedig, (ynghyd â 22 o rywogaethau eraill - pob un yn sgîl gweithgaredd dynol)

Roedd gwylwyr adar wedi eu brawychu ac yn dal heb eu hargyhoeddi ei bod wedi diflannu. Er na welwyd unrhyw arwyddion ohoni ers 1944, mae'n bosibl bod y gnocell eto yn llechu yn rhywle. Maent yn ofni y bydd newid ei statws i ‘Ddiflanedig’ yn golygu mwy o berygl iddi. "O’i chadw ar y rhestr o rywogaethau sydd mewn perygl mae modd cadw sylw arni, a gorfodi taliaethau i feddwl am barhau i reoli ei chynefin yn y gobaith ei bod yn dal i fodoli" meddai John Fitzpatrick, biolegydd ym Mhrifysgol Cornell. Yn 2005 cyhoeddodd astudiaeth yn datgan ailddarganfod yr aderyn yn nwyrain Arkansas. Roedd clip fideo yn awgrymu bodolaeth o leiaf un gwryw.

Roedd y gnocell, a oedd hyd at 51cm (20mod.) o daldra, yn arfer mynychu fforestydd de-ddwyrain yr UD, ond arweiniodd logio a hela at ei dirywiad yn y 19eg ganrif.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. The Times 30 Medi 2021 "Extinction has come Knocking for chief of the woodpecker tribe"
  Safonwyd yr enw Cnocell fwyaf America gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.