Cnocell werdd

rhywogaeth o adar
Cnocell werdd
Picus viridis

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Piciformes
Teulu: Picidae
Genws: Picus[*]
Rhywogaeth: Picus viridis
Enw deuenwol
Picus viridis
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell werdd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau gwyrddion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picus viridis; yr enw Saesneg arno yw Green woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain gan gynnwys yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. viridis, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Cnocell weddol fawr o ran maint yw'r Gnocell Werdd, tua 30–36 cm o hyd a 45–51 cm ar draws yr adenydd. Fel yr awgryma'r enw, aderyn gwyrdd ydyw, gyda gwyrdd-felyn goleuach ar y bol. Mae'n byw mewn coedwigoedd bychain gyda gwrychoedd a thir agored gerllaw; ac mae poblogaeth dda o forgrug yn bwysig iddo. I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal, twll mwy na'r rhan fwyaf o'r cnocellod eraill.

Ceir niferoedd sylweddol o'r gnocell yma yng Nghymru, er ei fod yn llai cyffredin na'r Gnocell Fraith Fwyaf.

Dosbarthiad y Gnocell Werdd
Picus viridis


Teulu golygu

Mae'r cnocell werdd yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cnocell Folwen Dryocopus javensis
 
Cnocell Magellan Campephilus magellanicus
 
Cnocell ddu Dryocopus martius
 
Cnocell fraith Japan Yungipicus kizuki
 
Cnocell gorunfrown Yungipicus moluccensis
 
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
 
Corgnocell y Philipinau Yungipicus maculatus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Cnocell werdd gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.