Cob yw'r enw a ddenyddir am adeiladwaith o gerrig, concrid, pridd neu ddefnyddiau eraill er mwyn cario ffordd neu reilffordd ar draws culfor, llyn neu gors. Mae'n wahanol i bont gan nad oes bwâu i'r dŵr fedru llifo odditanodd, er fod gan gobiau ar draws darnau o fôr yn aml lifddorau y gellir eu hagor a'u cau yn ôl y llanw. Fel rheol, prif bwrpas cob yw hwyluso trafnidiaeth, ond gall dibenion eraill fod yn bwysicach, er enghraifft ad-ennill tir oddi wrth y môr neu amddiffyn yn erbyn ymosodiadau o'r môr gan longau neu longau tanfor.

Cob Porthmadog o Boston Lodge ar lanw uchel

Ymhlith y cobiau enwocaf mae Cob Singapôr-Johor, sy'n cysylltu ynys Singapôr a Maleisia, a Cob y Brenin Fahd, 25 km o hyd, sy'n cysylltu Bahrain a Sawdi Arabia. Yng Nghymru, ceir y cob ger Porthmadog ar draws aber afon Glaslyn a Cob Malltraeth ar Ynys Môn. Pwrpas pennaf y ddau yma oedd ennill tir amaethyddol.