Coed y Brenin

coedwig yng Ngwynedd

Coedwig yn ne Gwynedd yw Coed y Brenin neu Coed-y-Brenin, gydag arwynebedd o tua 9,000 acer. Saif i'r gogledd o dref Dolgellau, gyda mynediad oddi ar y ffordd i Drawsfynydd, ac mae'n cynnwys dyffrynnoedd afon Mawddach, afon Eden, afon Gain ac afon Wen.

Coed y Brenin
Mathcoedwig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.825°N 3.916°W Edit this on Wikidata
Map
Plannu Coed y Brenin; 1953

Arferai'r goedwig fod ym mherchenogaeth Ystad Nannau. Prynwyd hi gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1922, ac ail-blannwyd rhannau helaeth ohoni. Ceir canolfan ymwelwyr ym Maesgwm, ac mae llawer o lwybrau ar gyfer beicio mynydd wedi eu datblygu yma, yn enwedig gan Dafydd Davis. Mae hefyd o bwysigrwydd ar gyfer bywyd gwyllt.

Coed y Brenin.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato