Coedcernyw

cymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd

Cymuned yn ninas Casnewydd yw Coedcernyw (Saesneg: Coedkernew). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 573.

Coedcernyw
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5503°N 3.0398°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000814 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map

Saif i'r gorllewin o ddinas Casnewydd, ychydig tu allan i'r ardal adeiledig. Mae'r draffordd M4 yn mynd trwy'r gymuned, a cheir ei chyffordd a'r briffordd A48 yma. Yng ngogledd a gorllewin y gymuned, mae'r boblogaeth yn tyfu fel mae ardal adeiledig y Dyffryn yn ymestyn.

Ceir gweddillion siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mharc Cleppa. Adeilad mwyaf nodedig y gymuned yw Tredegyr, plasdy oedd yn gartref i deulu Morgan o 1660 hyd 1951. Mae'r rhan fwyaf o'r tŷ presennol, sy'n awr yn eiddo Cyngor Sir Casnewydd, yn dyddio o'r cyfnod 1660-1718.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ruth Jones (Llafur).[1][2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coedcernyw (pob oed) (2,183)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coedcernyw) (199)
  
9.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coedcernyw) (1536)
  
70.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Coedcernyw) (111)
  
12%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]