Cofiwch Dryweryn

arwyddair gwleidyddol
Tryweryn
Capel Celyn
Mesur Tryweryn
Tri Tryweryn
Ffermydd a foddwyd yng Nghwm Tryweryn
Llyn Celyn
Cofiwch Dryweryn
gw  sg  go )

Mae "Cofiwch Dryweryn" yn arwyddair sy'n cyfeirio at foddi Capel Celyn ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl. Mae'r arwyddair yn annog y Cymry Cymraeg i gofio'r dinistriad o gymuned Gymraeg ac i ddiogelu'r iaith.

Cofiwch Dryweryn
Enghraifft o'r canlynolslogan gwleidyddol Edit this on Wikidata
CrëwrMeic Stephens Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r ymddangosiad enwocaf o'r ymadrodd yn graffito ar fur ger yr A487 yn Llanrhystud, y tu allan i Aberystwyth. Meic Stephens oedd y cyntaf i baentio'r mur yn y 1960au, gyda'r slogan 'Cofiwch Tryweryn' heb dreiglad.[1] Mae'r wal honno yn rhan o hen dŷ ffarm oedd yn sefyll yno ers y 19G.[2]

Difrodi ac adfer golygu

Mae'r graffito wedi ei ail-baentio sawl gwaith, weithiau yn dilyn negeseuon a ychwanegwyd i'r mur gan eraill. Drwy hyn fe gywirwyd y 'Tryweryn' gwreiddiol i 'Dryweryn'.[3]

Yn 1991, roedd Rhys ap Hywel a Daniel Simkins yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Penweddig a phenderfynodd y ddau fynd ati i adnewyddu'r arwydd gan beintio'r wal yn wyn a'r geiriau mewn du, gan arwyddo ei gwaith gyda llythrennau cyntaf eu henwau. Peintiwyd y gair "Trywerin" mewn camgymeriad, ond sylweddolwyd fod hynny'n anghywir y diwrnod wedyn. Yn yr ysgol, cafodd Rhys ei gadw nôl gan ei athrawes Cymraeg, Nia Jones, am ei bod wedi sylwi ar y camsillafiad. Aeth yn ôl y diwrnod wedyn i'w gywiro, gan ychwanegu "Sori Miss!" wrth ei ymyl.[4]

Yn 2003, perfformiwyd sioe "Ac ar derfyn y dydd ddaeth y dŵr" gan Gymdeithas Ieuenctid yr Urdd Ceredigion yn Theatr Felinfach. Roedd y sioe yn codi ymwybyddiaeth o hanes Tryweryn ac fel rhan o'r prosiect, aeth aelodau CIC i ail-beintio'r geiriau.[5] Ym Mai 2008, newidiwyd y neges i "Anghofiwch Dryweryn".[6]

Yn Ebrill 2010 peintiwyd dros y geiriau gyda graffito arall. Roedd cynlluniau ar y pryd i atgyweirio ac amddiffyn y wal. Lansiwch ymgyrch er mwyn ceisio codi tua £80,000, gyda Cadw yn cytuno i gyfrannu tuag at y gronfa. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw newidiadau ffurfiol i statws y wal a roedd fandaliaeth pellach yn 2013 a 2014.[7][8]

Yn 2017, ychwanegwyd y geiriau "Cofiwch Aberfan 1966" o dan y neges wreiddiol. Ail-baentiwyd y wal i'r neges wreiddiol yn Awst 2018.

Ar ddechrau Chwefror 2019 paentiwyd dros y slogan gyda graffiti yn dweud "Elvis ♥". O fewn diwrnod, aeth criw o bobl ifanc ati i ail-baentio'r wal gyda'r slogan gwreiddiol. Roedd galw eto gan rai i ddiogelu'r murlun.[9] Yn Ebrill 2019 ychwanegwyd y llythrennau 'AGARI' ar waelod y mur ond fe baentiwyd dros y gair o fewn oriau.[10] Y diwrnod canlynol fe chwalwyd rhan o'r wal yn llwyr, yn fwriadol mae'n debyg.[11] Aeth rhai ati i ail-adeiladu'r wal yr un diwrnod ac roedd yr heddlu am gynnal ymchwiliad.[12]

Ar ddiwedd Mehefin 2020 peintiwyd symbyliaeth hiliol ar y gofeb, gyda swastica a symbol 'pŵer gwyn'.[13] Glanhawyd y wal o fewn y diwrnod.[14]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofiwch Tryweryn? , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 10 Chwefror 2017.
  2. https://golwg360.cymru/archif/24166-graffiti-yn-difetha-wal-cofiwch-dryweryn , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
  3. (Saesneg) Morgan, Sion (13 Hydref 2010). Bid to preserve the iconic ‘Cofiwch Dryweryn’ wall. Western Mail. Adalwyd ar 24 Chwefror 2013.
  4. Cyfweliad Rhys ap Hywel ar fi di duw, 2010; cyrchwyd 6 Chwefror 2019
  5. Y theatr gymunedol sy'n plesio pawb. , Western Mail, 6 Rhagfyr 2003. Cyrchwyd ar 6 Chwefror 2019.
  6. "Anger over memorial wall attack". BBC. 13 Mai 2008.
  7. Morgon, Sion (13 Hydref 2010). "Bid to preserve the iconic 'Cofiwch Dryweryn' wall". Wales Online. Cyrchwyd 5 Awst 2018.
  8. 'National landmark' Cofiwch Dryweryn is defaced , BBC News, 29 Ebrill 2019.
  9. Dyn ifanc yn teimlo 'dyletswydd' i adfer cofeb Tryweryn , BBC Cymru Fyw, 4 Chwefror 2019.
  10. Adfer wal ‘Cofiwch Dryweryn’ , Golwg360, 12 Ebrill 2019. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2019.
  11. Chwalu rhan o wal Cofiwch Dryweryn , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
  12. Galw am warchod wal Tryweryn wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad , Golwg360, 13 Ebrill 2019.
  13. (Saesneg) Cofiwch Dryweryn mural vandalised with swastika and white power symbol. Nation.Cymru (30 Mehefin 2020).
  14. Swastika a graffiti hawliau pobol â chroen gwyn ar wal Cofiwch Dryweryn eto , Golwg360, 30 Mehefin 2020.

Oriel golygu