Coleg Annibynwyr Aberhonddu

Cyn goleg i hyfforddi gweinidogion yr Annibynwyr yn Aberhonddu

Roedd Coleg Annibynwyr Aberhonddu yn athrofa i hyfforddi gweinidogion a chenhadon yr Annibynwyr[1] a agorodd ym 1838 a chaeodd ym 1959. Bellach defnyddir yr adeilad ar gyfer tai cysgodol.

Coleg Annibynnol Aberhonddu
Mathcoleg diwinyddol, athrofa anghydffurfiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberhonddu, Aberhonddu Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9431°N 3.3761°W Edit this on Wikidata
Cod postLD3 7RP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Cefndir athrofeydd yr Annibynwyr golygu

Sefydlwyd yr athrofa gyntaf ar gyfer darpar weinidogion yr Annibynwyr yng Nghymru ym Mrynllywarch, Sir Forgannwg ym 1662. Sefydlydd y coleg oedd Samuel Jones, A.M. (1628 -1697) cyn athro yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd Jones yn un o'r 2,500 o offeiriaid Piwritanaidd yn Eglwys Loegr a drowyd allan o'r eglwys ym 1662 am wrthod cydymffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662. Symudwyd yr athrofa yma i Tewkesbury, Swydd Gaerloyw wedi marwolaeth Jones.[2]

Sefydlwyd Athrofa i baratoi dynion ar gyfer weinidogaeth yr Annibynwyr Cymreig yn y Fenni ym 1757. Apwyntiwyd David Jardine, gweinidog Annibynnol y dref, yn bennaeth. Ym 1781, symudodd yr Athrofa i Groesoswallt i fod dan ofal Dr Edward Williams.[3] Pan symudodd Dr Williams i fod yn weinidog ym Mirmingham symudodd yr Athrofa i Wrecsam, lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis, gweinidog y dref. Olynwyd Lewis fel gweinidog a phennaeth yr Athrofa gan Dr George Lewis,[4] ond ym 1816 derbyniodd ef alwad i fod yn weinidog Lanfyllin, a chymerodd yr Academi gydag ef. Derbyniodd Dr Lewis alwad i'r Drenewydd ym 1821 a symudodd yr Athrofa gydag ef eto. Bu farw George Lewis ym 1822. Olynydd Dr Lewis oedd Edward Davies, M.A. (mab yng nghyfraith Dr Lewis)[5] (ar y cyd â Samuel Bowen [6] hyd 1830).[1]

Coleg Aberhonddu golygu

Ym 1836 penderfynodd y Bwrdd Cynulleidfaol i sefydlu athrofa fwy parhaol gyda'r eglwysi i ddwyn rhan o draul cynnal yr Athrofa. Byddai hyn yn fodd cynnal athrawon llawn amser, heb ofalaeth eglwysig, fel nad oedd yr athrofa yn mynd ar daith pob tro byddai ei bennaeth yn farw neu'n cael galwad newydd. Ym 1838 symudwyd yr athrofa i Aberhonddu gyda Charles Nice Davies [7] yn Brifathro, ac Edward Davies yn athro'r clasuron.[1] Roedd y coleg wedi ei leoli ar Stryd St. Mair mewn adeilad mawr o'r enw Neuadd yr Oddfellows.

Bu farw Nice Davies ym 1842. Penodwyd Henry Griffiths, yn olynydd iddo [8]. Yn ystod cyfnod Griffiths fel prifathro bu dau ddatblygiad pwysig yn nhrefniadaeth y coleg. Y gyntaf oedd agor y coleg i nifer cyfyngedig o efrydwyr lleyg, nad oeddynt yn bwriadu dod yn weinidogion na chenhadon. Yr ail oedd y coleg yn cael ei gydnabod fel un cysylltiedig â Phrifysgol Llundain ym 1852, a thrwy hynny yn gallu cynnig cyrsiau gradd.[9]

Ym 1853 ymadawodd Griffiths â'r coleg, er mwyn gwasanaethu fel gweinidog yn Lerpwl a daeth y Parch. John Morris yn Brifathro [10].

Y Coleg Coffa golygu

Yn ystod amser John Morris fel prifathro adeiladwyd cartref pwrpasol newydd ar gyfer y coleg ar Heol Camden. Enwyd yr adeilad newydd "Y Coleg Coffa", i goffau sefydlydd coleg cyntaf yr annibynwyr yng Nghymru a'i gyd weinidogion a chafodd eu troi allan ym 1662.

Gosodwyd carreg sylfaen yr adeilad newydd gan Samuel Morley AS ar 12 Mehefin 1867. Paratowyd cynlluniau i'r coleg arfaethedig gan y Parch. Thomas Thomas, o Landŵr, ond ar ôl i dendrau gael eu hysbysebu a'u derbyn, gwelwyd y byddai'r gost ar gyfer cyflawni'r cynlluniau yn eu cyfanrwydd gryn dipyn yn fwy nag yr oedd y pwyllgor yn teimlo eu bod yn gyfiawn i'w hysgwyddo. Yna gostyngwyd y dyluniad, ac yn y diwedd penderfynwyd derbyn tendr y Meistri Watkins a Jenkins, o Abertawe, am £8,250. Tuag at y swm hwn roedd yna swm o tua £ 2,000 mewn llaw, canlyniad yr ymdrech a wnaed mewn cysylltiad â'r mudiad Daucanmlwyddiant y troi allan, ar ôl gwariant ar gyfer gwrthrychau amrywiol. Cyfrannwyd swm bonheddig arall o £1,000 gan Samuel Morley, a rhoddwyd nifer o symiau llai gan eraill oedd â diddordeb yng nghynnydd addysg, ac yn enwedig mewn paratoi dynion ifanc yn iawn ar gyfer gwaith y weinidogaeth. Costiodd y coleg yn gyfan gwbl, gan gynnwys 4.5 erw (1.8 ha) o dir rhydd-ddaliadol, tua £11,000, a chodwyd y cyfan, ac eithrio £900, erbyn y diwrnod agoriadol, a dilëwyd y ddyled oedd yn weddill erbyn diwedd yr un flwyddyn. Cafwyd costau eraill wedi hynny mewn cysylltiad â'r tiroedd a'r preswylfeydd, a ddaeth â'r gost gyfan i gyfanswm o £12,000. [1]

Y Parch. William Roberts[11] a olynodd Edward Davies fel athro clasurol yn 1857. Bu farw Roberts trwy ddamwain yng ngorsaf Malvern ym 1872. Olynwyd ef gan un o gyn efrydwyr yr athrofa'r Parch. David Rowlands, (Dewi Môn), yr hwn a ddaeth yn Brifathro ar farwolaeth Dr Morris ym 1896. Penodwyd John Evans yn athro yn lle Dewi Môn.[12]. Rhwng 1899 a 1909, pan benodwyd ef yn brifathro Coleg Bala Bangor bu Thomas Rees yn athro diwinyddol Aberhonddu.[13]Ar farwolaeth Dewi Môn penodwyd y Parch Thomas Lewis, M.A., B.D. yn brifathro. Ym 1907 penodwyd Joseph Jones, cyn myfyriwr yn athro y Testament Newydd. Wedi ymddeoliad Lewis ym 1943 daeth ef yn brifathro.[14] Ym 1909 daeth David Miall Edwards yn athro Athroniaeth Crefydd ac Athrawiaeth Gristnogol yn y coleg.[15] Wedi ymddeoliad Miall Edwards ym 1935 penodwyd Y Parch John Daniel Vernon Lewis yn athro yn ei le, gwasanaethodd Lewis fel prifathro llanw rhwng 1950 a 1952 wedi marwolaeth sydyn Joseph Jones. Parhaodd Lewis yn athro hyd ei ymddeoliad ym 1957[16]

Prifathro olaf y coleg rhwng 1952 a 1959 oedd y Dr Pennar Davies. Penodwyd Pennar Davies yn brifathro Coleg Coffa Abertawe ym 1959 ac unwyd y ddau goleg a chaewyd safle Aberhonddu.

Pensaernïaeth golygu

Mae'r adeilad o ddyluniad Gothig, a thair stori o uchder. Mae wedi'i adeiladu o gerrig brodorol, gyda gorchuddion carreg Caerfaddon. Y cyfanswm hyd y blaen yw 154 troedfedd (47 m), gyda dyfnder o'r blaen i'r cefn o tua 100 troedfedd (30 m). Mae yna adeilad canolog, gydag asgell ar y naill ochr a'r llall, ac ardal rhyngddynt. Ar y llawr isaf bu'r holl adrannau domestig. Ar y llawr cyntaf, roedd neuadd fwyta 85 wrth 20 troedfedd (25.9 m × 6.1 m), a 18.5 troedfedd (5.6 m), gyda ffenestr fae mawr; a llyfrgell olygus o'r un dimensiynau. Roedd y llawr nesaf yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth a dwy ystafell astudio. Roedd y trydydd llawr yn cynnwys yr ystafelloedd cysgu; gyda 24 stydi ac 20 ystafell gysgu (rhai ohonynt â dau wely) at ddefnydd y myfyrwyr. Roedd yna hefyd breswylfeydd cyfleus i'r tiwtoriaid. Mae'r twr, sy'n codi 7 troedfedd (2.1 m) o linell y prif adeilad, yn 16 troedfedd sgwâr (1.5 m2) a thua 100 troedfedd (30 m) o uchder. Roedd y brif fynedfa o dan y twr, a ffordd sy'n arwain at ei gefn. [17]

Mae'r adeilad yn rhestredig gradd II

Cyn myfyrwyr golygu

 
Dewi Môn, myfyriwr a phrifathro

Ymysg cyn myfyrwyr Athrofa Aberhonddu bu:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Llenor Cyf. 15, Rh. 1-4, 1936 YR ACADEMIAU ANGHYDFFURFIOL YNG NGHYMRU II. ACADEMIAU'R ANNIBYNWYR. Adferwyd 4 Meh 2021
  2. Owen, J. D., (1953). JONES, SAMUEL (1628 - 1697), Brynllywarch, Sir Forgannwg, gweinidog Anghydffurfiol ac athro. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  3. "WILLIAMS, EDWARD (1750 - 1813), diwinydd ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  4. "LEWIS, GEORGE (1763-1822), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  5. "DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  6. "BOWEN, SAMUEL (1799 - 1887), Macclesfield, athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  7. "DAVIES, CHARLES NICE (1794 - 1842), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  8. Jenkins, R. T., (1953). GRIFFITHS, HENRY (1812 - 1891), gweinidog ac athro Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  9. Brycheiniog Cyfrol 3, 1957 tud 54; Episodes in the History of Brecknockshire Dissent: V THE COLLEGE AT BRECON adferwyd 5 Mehefin 2021
  10. Jenkins, R. T., (1953). MORRIS, JOHN (1813 - 1896), prifathro Coleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  11. Jenkins, R. T., (1953). ROBERTS, WILLIAM (1828 - 1872), athro yng Ngholeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  12. Davies, W. T. P., (1997). EVANS, JOHN (1858 - 1963); gweinidog (A) ac athro yn y Coleg Coffa, Aberhonddu. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 4 Meh 2021
  13. REES, THOMAS (1869 - 1926), prifathro Coleg Bala-Bangor, Bangor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  14. Davies, D. J., (1970). JONES, JOSEPH (1877 - 1950), prifathro Coleg Coffa, Aberhonddu. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  15. Lewis, H. D., (1970). EDWARDS, DAVID MIALL (1873 - 1941), diwinydd a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  16. Evans, E. L., (1997). LEWIS, JOHN DANIEL VERNON (1879 - 1970), ysgolhaig, gweinidog (A), awdur, Athro a phrifathro coleg. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  17. Edwin Poole "The Illustrated History and Biography of Brecknockshire: From the Earliest Times to the Present Day. Illustrated by Several Engravings and Portraits" tud 68 (1886)
  18. BOWEN, DAVID GLYN, (1933-2000), gweinidog a diwinydd aml-ffydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  19. DAVIES, DANIEL JOHN (1885 - 1970), gweinidog (A) a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  20. DAVIES, ELLIS THOMAS (1822 - 1895), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  21. DAVIES, EVAN CYNFFIG (1843 - 1908), athro, awdur, a cherddor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  22. DAVIES, JOHN (1823 - 1874), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  23. DAVIES, JOHN OSSIAN (1851 - 1916), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  24. DAVIES, TIMOTHY EYNON (1854 - 1935), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  25. [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-DAVI-THO-1823 DAVIES, THOMAS (1823 - 1898), Llanelli;. Y Bywgraffiadur Cymreig.} Adferwyd 4 Meh 2021
  26. DAVIES, THOMAS (1820 - 1873), Llandeilo, gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  27. DAVIES, WILLIAM DAVID ('W.D.') (1911-2001), ysgolhaig Beiblaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  28. DAWKINS, MORGAN GAMAGE (1864 - 1939), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, ac emynydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  29. EVANS, DANIEL SILVAN (1818 - 1903), geiriadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  30. EVANS, EVAN HERBER (1836 - 1896), gweinidog Annibynnol a phrifathro coleg diwinyddol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  31. [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-MIC-1858 HUGHES, HUGH MICHAEL (1858 - 1933), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  32. HUGHES, JOHN HENRY (' Ieuan o Leyn '; 1814 - 1893), gweinidog a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  33. JOHN, GRIFFITH (1831 - 1912), cenhadwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  34. ONES, DANIEL OWEN (1880 - 1951), gweinidog (A) a chenhadwr ym Madagascar Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  35. JONES, EDGAR (1912-1991), gweinidog, bugail ac ysgolhaig. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  36. JONES, EVAN (' Ieuan Gwynedd '; 1820 - 1852), gweinidog a newyddiadurwr Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  37. JONES, IEUAN SAMUEL (1918-2004), gweinidog (Annibynwyr). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  38. JONES, JOHN MORGAN (1873 - 1946); gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  39. JONES, JOSIAH (1830 - 1915), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  40. JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  41. EWIS, DAVID JOHN (' Lewis Tymbl '; 1879 - 1947), gweinidog (A), pregethwr a darlithiwr poblogaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  42. LEWIS, TIMOTHY (1877 - 1958), ysgolhaig Cymraeg a Chelteg. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  43. MICHAELIONES, THOMAS (THOMAS MICHAEL JONES; 1880 - 1960), offeiriad a pherchennog gwaith aur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  44. MORRIS, CALEB (1800 - 1865), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  45. NICHOLSON, WILLIAM JOHN (1866 - 1943), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  46. PIERCE, WILLIAM (1853 - 1928), gweinidog Annibynnol, a hanesydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  47. PROBERT, LEWIS (1837 - 1908), gweinidog a phrifathro coleg gyda'r Annibynwyr Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  48. REES, JOHN SEYMOUR (1887 - 1963), gweinidog (A) ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  49. REES, THOMAS (1869 - 1926), prifathro Coleg Bala-Bangor, Bangor Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  50. REES, THOMAS MARDY (1871 - 1953), gweinidog (A), hanesydd a llenor Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  51. RICHARDS, DAVID (1822 - 1900), cerddor, etc.. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  52. THOMAS, ISAAC (1911-2004), gweinidog (Annibynwyr) ac athro coleg. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  53. THOMAS, JOHN (' Eifionydd '; 1848 - 1922), cychwynnydd a golygydd Y Geninen. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  54. THOMAS, THOMAS MORGAN (1828 - 1884), cenhadwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  55. THOMAS, WILLIAM (1832 - 1911), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  56. WALTERS, DAVID (EUROF) (1874-1942), gweinidog (A) a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021
  57. Jones, E. D., (1997). WILLIAMS, JOHN JAMES (1869 - 1954), gweinidog (A) a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Meh 2021