Coleg Annibynwyr y Bala

Athrofa yr Annibynwyr yn y Bala
Mae'r erthygl hon am Goleg yr Annibynwyr yn y Bala (coleg Michael a Michael D. Jones) am goleg yr Eglwys Bresbyteraidd (MC) gweler Coleg y Bala

Roedd Coleg Annibynwyr y Bala yn athrofa ar gyfer hyfforddi darpar weinidogion enwad yr Annibynwyr.[1]

Bodiwan, Coleg yr Hen Gyfansoddiad
Plas yn Dre, Coleg y Cyfansoddiad Newydd

Cefndir athrofeydd yr Annibynwyr golygu

Sefydlwyd Athrofa i baratoi dynion ar gyfer weinidogaeth yr Annibynwyr Cymreig yn y Fenni ym 1757. Apwyntiwyd David Jardine, gweinidog Annibynnol y dref, yn bennaeth. Ym 1781, symudodd yr Athrofa i Groesoswallt i fod dan ofal Dr Edward Williams.[2] Pan symudodd Dr Williams i fod yn weinidog ym Mirmingham symudodd yr Athrofa i Wrecsam, lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis, gweinidog y dref. Olynwyd Lewis fel gweinidog a phennaeth yr Athrofa gan Dr George Lewis,[3] ond ym 1816 derbyniodd ef alwad i fod yn weinidog Lanfyllin, a chymerodd yr Academi gydag ef. Derbyniodd Dr Lewis alwad i'r Drenewydd ym 1821 a symudodd yr Athrofa gydag ef eto. Bu farw George Lewis ym 1822. Olynydd Dr Lewis oedd Edward Davies, M.A.[4] (ar y cyd â Samuel Bowen [5] hyd 1830).[1]

Ym 1836 penderfynodd y Bwrdd Cynulleidfaol i sefydlu athrofa fwy parhaol gyda'r eglwysi i ddwyn rhan o draul cynnal yr Athrofa. Byddai hyn yn fodd cynnal athrawon llawn amser, heb ofalaeth eglwysig, fel nad oedd yr athrofa yn mynd ar daith pob tro byddai ei bennaeth yn farw neu'n cael galwad newydd. Ym 1838 symudwyd yr athrofa i Aberhonddu gyda Charles Nice Davies [6] yn Brifathro, ac Edward Davies yn athro'r clasuron.[1]

Sefydlu Coleg Annibynwyr y Bala golygu

Pan symudwyd yr Athrofa o'r Drenewydd i Aberhonddu mynnodd Annibynwyr y Gogledd sefydlu Athrofa yn Llanuwchllyn ym 1841, dan ofal y Parch Michael Jones,[7] a symudwyd i dref Y Bala ym 1842, fel Coleg Annibynwyr y Bala. £30 y flwyddyn oedd ei gyflog, ond gwnaeth ei waith yn gydwybodol a llwyddiannus. Bu 89 o efrydwyr yn y Bala yn ystod y 12 mlynedd y bu Michael Jones yn bennaeth.

Pan fu farw Michael Jones ym 1853 rhoddwyd galwad i'w fab Michael D. Jones [8] i'w olynu. Bu cyfnod Michael D. Jones fel pennaeth y Coleg yn hynod gythryblus. Roedd coleg Michael D Jones yn cael ei redeg, i bob pwrpas, fel Athrofa'r Fenni canrif ynghynt. Ef oedd yr unig athro yn ceisio dysgu Hebraeg, Groeg, Lladin, Daearyddiaeth, Mathemateg, Diwinyddiaeth, Daeareg, Cymraeg a Saesneg i'r efrydwyr wrth wasanaethu fel gweinidog ar nifer o gapeli'r cylch ar yr un pryd. Erbyn diwedd y 1850au bu llawer o feirniadu am safon addysg y coleg. Ysgrifennodd William Ambrose (Emrys) [9] llythyrau i'r Dysgedydd yn honni "fod myfyrwyr yn cyrraedd yr Athrofa yn anllythrennog ac yn gadael yn anllythrennog".[10] O'r 1850au hyd y 1890au bu hanes yr athrofa yn gyfres o helyntion a chwerylon, y naill bron yn arwain i'r llall gyda Michael D. Jones ynghanol bob un.[11]

Ym 1861 apwyntiwyd ail athro, John Peter (Ioan Pedr), yn athro'r clasuron i gynorthwyo gyda'r gwaith ac ym 1873 penodwyd Robert Thomas (ap Vychan) yn athro diwinyddiaeth. Bu farw Ioan Pedr ym 1877 ac ap Vychan ym 1880.

Yn codi o'r anghydfod am safon yr addysg yn y Bala bu trafodaeth yn y 1860au am uno'r coleg yn y Bala gyda Choleg Aberhonddu fel bod gan yr Annibynwyr un coleg gydag ystod eang o athrawon arbenigol. Roedd nifer o annibynwyr blaenllaw yn frwd o blaid yr uno a nifer, gan gynnwys Michael D Jones, yn ffyrnig o wrthwynebus. Ac yn ôl John Griffiths (Y Gohebydd) bu'n open war rhwng y ddwy garfan.

Daeth anghydfod uno'r ddau goleg ar ben anghydfod arall a fu'n berwi ym mysg yr annibynwyr am ddegawdau. Ers dyddiau Hugh Jones, (Cromwell o Went) bu ymgais i greu cyfundrefn neu gyfansoddiad i roi gwell drefn ar yr enwad. I buryddion yr enwad roedd hyn yn ddrewi o Bresbyteriaeth ac yn bygwth annibyniaeth gynulleidfaol oedd wrth wraidd trefn yr enwad. Roedd rheolaeth Coleg Annibynwyr y Bala yn nwylo'r sawl oedd yn danysgrifwyr at gynnal coleg. Roedd gwrthwynebwyr Michael D Jones am i bwyllgor o gynrychiolwyr y cyfundebau sirol bod â'r awdurdod i lywodraethu. Canlyniad helynt blin y Cyfansoddiadau ydoedd rhwyg ym 1879, ac am flynyddoedd yr oedd dau Goleg yn y Bala - Coleg y Cyfansoddiad Newydd ym Mhlas-yn-dre dan ofal y Parch. Thomas Lewis, yr hwn a wnaed yn athro yn 1874, a Choleg yr Hen Gyfansoddiad ym Modiwan [12] o dan Michael. D. Jones.

Diwedd y coleg golygu

Ym 1886 symudodd y sefydliad a oedd dan ofal Thomas Lewis, i Fangor i gael y fantais o fod yn ymyl Coleg y Brifysgol. Ym 1889 gadawodd Mr John Rylands, Manceinion, £5,000 yn ei ewyllys i "Goleg y Bala," a hawliwyd y swm gan y ddau goleg.[13] I osgoi colli'r cyfan trwy gostau cyfreithiol daethpwyd i ddealltwriaeth, ac unwyd y ddwy gan gymryd yr enw "Coleg Bala-Bangor".[14] Ymddiswyddodd Michael. D. Jones ym 1892, aeth ei fyfyrwyr i Fangor, a darfu'r sefydliad a oedd ym Modiwan.[11]

Myfyrwyr amlwg golygu

Ymysg y sawl a fu'n astudio yng Ngholeg Annibynwyr y Bala bu:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Y Llenor Cyf. 15, Rh. 1-4, 1936 YR ACADEMIAU ANGHYDFFURFIOL YNG NGHYMRU II. ACADEMIAU'R ANNIBYNWYR. Adferwyd 29 Hyd 2020
  2. "WILLIAMS, EDWARD (1750 - 1813), diwinydd ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  3. "LEWIS, GEORGE (1763-1822), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a diwinydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  4. "DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  5. "BOWEN, SAMUEL (1799 - 1887), Macclesfield, athro a gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  6. "DAVIES, CHARLES NICE (1794 - 1842), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  7. "JONES, MICHAEL (1787 - 1853), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  8. "JONES, MICHAEL DANIEL (1822 - 1898), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro Coleg Annibynnol y Bala | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  9. "AMBROSE, WILLIAM ('Emrys'; 1813 - 1873), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-29.
  10. Y Dysgedydd Crefyddol Mawrth 1862 EIN HATHROFAAU, Erthygl I Adferwyd 29 Hyd 2020
  11. 11.0 11.1 Y Cofiadur sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru Rhif 61, (Mai 1997) Tomos Roberts; DEMOCRATIAETH BERYGLUS-BRWYDR Y DDAU GYFANSODDIAD Adferwyd 29 Hyd 2020
  12. "BODIWAN - Y Dydd". William Hughes. 1879-06-20. Cyrchwyd 2020-10-29.
  13. Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1928-1929, 1930 NONCONFORMIST ACADEMIES IN WALES (1662-1862).1 BY THE REV. H. P. ROBERTS, M.A., CRICKHOWELL Adferwyd 29 Hyd 2020
  14. "DEATH OF THE REV MICHAEL D JONES - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1898-12-10. Cyrchwyd 2020-10-29.
  15. BRACE, DAVID ONLLWYN (1848 - 1891), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  16. DAVIES, BEN (1840 - 1930), gweinidog Annibynnol, pregethwr poblogaidd, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  17. DAVIES, BEN (1864 - 1937), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  18. James Charles Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  19. Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  20. EDWARDS, WILLIAM ROBERT (‘Glanllafar’, 1858 - 1921), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  21. EVANS, DAVID (1842 - 1914), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  22. EVANS, ROBERT TROGWY (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  23. VANS, THOMAS (1844 - 1922), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  24. HUWS, WILLIAM PARI (1853 - 1936), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  25. JONES, EVAN (PAN) (1834 - 1922), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  26. MATHEWS, ABRAHAM (1832 - 1899); gweinidog, arloeswr, a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  27. PARRY, DAVID (‘Dewi Moelwyn’; 1835 - 1870), gweinidog a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  28. REES, BOWEN (1857 - 1929), cenhadwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  29. WILLIAM HOPKYN (1859 - 1924), gweinidog gyda'r Annibynwyr, cenhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain, ac ieithydd o fri. Y Bywgraffiadur Cymreig.[dolen marw] Adferwyd 29 Hyd 2020
  30. ROBERTS, THOMAS (‘Scorpion’; 1816 - 1887), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  31. ROWLANDS, DAVID (‘Dewi Môn’; 1836 - 1907), gweinidog Annibynnol a phrifathro. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  32. STEPHEN, EDWARD (JONES) (‘Tanymarian '; 1822 - 1885). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  33. THOMAS, HUGH EVAN (‘Huwco Meirion’; 1830 - 1889), gweinidog gyda'r Annibynwyr Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  34. THOMAS, WILLIAM (KEINION) (1856 - 1932), gweinidog Annibynnol, a newyddiadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020
  35. WILLIAMS, ROWLAND (‘Hwfa Môn’; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Hyd 2020