Coleg Glan Hafren

Coleg addysg bellach yng Nghaerdydd, Cymru yw Coleg Glan Hafren.

Coleg Glan Hafren
Sefydlwyd 1989
Math Coleg addysg bellach
Cadeirydd Jacquie Turnbull
Llywydd Rob Larkins
Staff 500
Myfyrwyr 12,000
Lleoliad Caerdydd, Baner Cymru Cymru
Campws Trowbridge Road, Tredelerch
The Parade, canol Caerdydd
Gwefan http://www.glan-hafren.ac.uk/

Manylion y Coleg golygu

Mae dros 12,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r coleg. Darparir dros 800 o gyrsiau gan gynnwys Lefelau-A, cyfle i fyfyrwyr ail-eistedd TGAU; cyrsiau ieithoedd, cyrsiau busnes a phroffesiynol megis cyfraith, marchnata, cyfrifedd, gwallt a harddwch, cyrchu; ESOL a Drws Agored; chwaraeon, arlwyo, gofal plant, teithio a thwristiaeth; cyrsiau creadigol a digidol, peiriannu ac adeiladu. Mae'n gwasanaethu myfyrwyr o 14 oed ymlaen, mae myfyriwr hynaf y coleg yn 80 oed. Mae cyrsiau hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dan yr enw Coleg Ryngwladol Caerdydd, gydag achrediad y Cyngor Prydeinig.

Mae gan y coleg ddau gampws ar bedwar safle. Lleolir un ar Trowbridge Road, Tredelerch yn nwyrain y ddinas, a'r campws arall yng nghanol y ddinas gyda dwy safle yn 27 a 35, The Parade. Mae'r coleg hefyd yn rhedeg salon trin gwallt a harddwch masnachol yn Arcêd Castell Caerdydd, sef y Design Academy. Maent hefyd yn darparu cyrsiau ar safleoedd allanol, megis rhai yn Nhrelái.

Sefydlwyd y coleg ym 1989, ac ymgorfforwyd gan siarter frenhinol ym 1993. Bwriadwyd i'r coleg wasanaethu ardal ddwyreiniol Caerdydd gyda choleg arall yn gwasanaethu'r gorllewin. Mae chwe cyfadran o fewn y coleg.

Dolenni allanol golygu