Coleg addysg bellach yng ngogledd-orllewin Cymru yw Coleg Menai, sydd bellach yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai. Sefydlwyd y coleg ar 1 Awst 1994 [1] yn sgil uno dau goleg, sef Coleg Pencraig, Sir Fôn a Choleg Gwynedd, Bangor.[2][2] Diddymwyd Coleg Menai, yn gorfforaethol, ar 1 Ebrill 2012 [3] pan ddaeth yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai. Parheir i ddefnyddio'r enw Coleg Menai wrth gynnig cyrsiau i ddysgwyr a chydweithio a rhanddeiliaid. Dyfarnodd Estyn yn 2017 [4] fod darpariaeth Grŵp Llandrillo Menai yn ardderchog mewn 8 maes a da mewn 7 maes.

Coleg Menai
Mathsefydliad academaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.256°N 4.314°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Campysau golygu

Lleolir campysau'r coleg yn Llangefni a Chaergybi (Ynys Môn) a Caernarfon, Bangor a Pharc Menai (parc diwydiannol gerllaw Bangor) oll yng Ngwynedd.

Cyflwynir ar gampws Llangefni cyrsiau yn ymwneud a pheirianneg moduron, asio a ffabrigio, astudiaethau cyfryngau, iechyd a gofal, technoleg wybodaeth, sgiliau byw yn annibynnol, crefftau adeiladwaith (saernïaeth, gwaith maen, a phlastro a gwaith bric) a thechnoleg bwyd.  Datblygwyd y cyfleusterau yn sylweddol ar y campws ers sefydlu’r Coleg yn 1994. Ychwanegwyd Llyfrgell newydd (gan gynnwys ar y llawr cyntaf ystafelloedd dysgu TGCh) yn 1999, Canolfan Technoleg Bwyd yn 2000 (ymestynnwyd ddwywaith yn ddiweddarach), adeilad Iechyd a Gofal yn 2003, canolfan Adeiladwaith yn 2009, canolfan Ynni yn 2011 a “Chanolfan Cefni” yn 2016.  Cynlluniwyd i agor adeilad Peirianneg newydd yn 2019.

Mae safle’r coleg ym Mangor yn cynnwys adeiladau ar y naill ochr a’r llall ar Ffordd Ffriddoedd, sef y coleg technegol a ddatblygwyd yn y 1950au a’r 1960 [5][6] a hefyd cyn adeilad yr ysgol ramadeg Friars.  Cyflwynir ym Mangor cyrsiau ym meysydd astudiaethau busnes a gweinyddiaeth, mynediad at Addysg Uwch, Safon Uwch, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, peirianneg drydanol a mecanyddol, adeiladwaith, plymio dŵr a nwy, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig, trin gwallt a therapi harddwch, technoleg cerdd, celfyddydau perfformio, coginio a lletygarwch, teithio a thwristiaeth.

Mae Parc Menai ym Mharc Busnes Bangor yn gartref i gyrsiau celf a dylunio.

Tŷ Cyfle yw enw campws y coleg yng Nghaergybi ac mae adeilad y coleg yng Nghaernarfon wedi’i leoli ar y Maes, yno. Mae'r coleg ar y ddau safle yn hybu mentrau gan gynnwys Rhaglen Sgiliau Sylfaenol, Dychwelyd i Ddysgu a Chymraeg i Oedolion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Coleg Menai (Government) Regulations 1994". www.legislation.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-21.
  2. 2.0 2.1  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol..
  3. "The Coleg Menai Further Education Corporation (Dissolution) Order 2012". www.legislation.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-21.
  4. "Estyn: Grŵp Llandrillo Menai". www.estyn.llyw.cymru. Cyrchwyd 2018-08-21.[dolen marw]
  5. Rees, Aled (2017-09-18). "Caernarvonshire Technical College". www.facebook.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-21.
  6. Martin, John (2001). Hanes Coleg Gwynedd: a history of Coleg Gwynedd. Bangor.

Dolenni allanol golygu