Coleg Normal, Bangor

coleg hyfforddi athrawon ym Mangor

Coleg hyfforddi athrawon oedd Coleg y Normal, Bangor a newidiodd ei enw oddeutu 1979 i Y Coleg Normal. Fe'i sefydlwyd yn 1861 drwy arian a godwyd gan gymdeithasau Cymraeg a Syr Hugh Owen - cyfanswm o £11,000; derbyniwyd y swm tila o £2,000 gan Lywodraeth Prydain.

Coleg Normal, Bangor
MathColeg normal, coleg hyfforddi athrawon Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1858 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadColeg Normal, Bangor Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.22981°N 4.131161°W Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir ar lannau Afon Menai - nid nepell o Fangor. Yn 1996 fe lyncwyd y coleg annibynnol hwn gan Brifysgol Cymru, Bangor. Ceir campws arall oddeutu milltir i ffwrdd yng nghanol Bangor Uchaf, lle mae Neuadd Eryri, Neuadd Ogwen, Neuadd Ddyfrdwy a Neuadd Aethwy. John Phillips oedd y Prifathro cyntaf. Esgymunwyd y Gymraeg fel pwnc rhwng 1865 a 1907. Agorwyd y drws i fyfyrwyr benywaidd yn 1910.

Yn y 1960au cododd dros 20 o ddarlithwyr mewn protest i hawlio siec gyflog drwy gyfrwng y Cymraeg - un o ymgyrchoedd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[1]

Cynfyfyrwyr golygu

Darlithwyr adnabyddus golygu

Cyfeiriadau golygu