Coleg Prifysgol Dulyn

Prifysgol yn Nulyn, Iwerddon, yw Coleg Prifysgol Dulyn (Gwyddeleg: Coláiste na hOllscoile, Baile Átha Cliath; Saesneg: University College Dublin, UCD). Mae'n aelod-sefydliad ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon. Mae ganddi mwy na 33,000 o fyfyrwyr, a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Iwerddon.

Coleg Prifysgol Dulyn
Mathprifysgol gyhoeddus, prifysgol ymchwil Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1854 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.3076°N 6.21981°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r goleg yn tarddu o gorff a sefydlwyd ym 1854, a agorodd fel Prifysgol Gatholig Iwerddon gyda John Henry Newman yn ei rheithor cyntaf; ail-ffurfiodd ym 1880 ac enillodd ei siartr ei hun ym 1908. Ym 1997 ailenwyd y brifysgol gyfansoddol yn "Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Dulyn", ac yn 1998 ailenwyd y sefydliad ei hun yn "Goleg Prifysgol Dulyn - Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Dulyn".

Yn wreiddiol safodd y brifysgol yn St Stephen's Green yng nghanol dinas Dulyn, ond bellach mae'r holl gyfadrannau wedi symud i gampws yn Belfield, 4 km i'r de o ganol y ddinas.

Cyn-fyfyrwyr golygu

Dolen allanol golygu