Coleg y Breninesau, Caergrawnt

coleg y Prifysgol Caergrawnt
Coleg y Breninesau, Prifysgol Caergrawnt
Arwyddair Floreat Domus
("Bloduir y tŷ hwn")
Enw Llawn Coleg Brenhines Santes Farged a Sant Bernard ym Mhrifysgol Caergrawnt
Sefydlwyd 1448
Enwyd ar ôl Marged o Anjou (1448)
Elizabeth Woodville (1465)
Lleoliad Silver Street, Caergrawnt
Chwaer-Goleg Coleg Penfro, Rhydychen
Prifathro Arglwydd Eatwell
Is‑raddedigion 525
Graddedigion 370
Gwefan www.queens.cam.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg y Breninesau (Saesneg: Queens' College). Fe'i sefydlwyd gyntaf ym 1448 gan Farged o Anjou. Ail-sefydlwyd y coleg ym 1465 gan Elizabeth Woodville, gwraig Edward IV o Loegr. Adlewyrchir yr ail-sefydlu hwn yn yr enw: Coleg y Breninesau, nid Coleg y Frenhines.

Coleg y Breninesau yw'r ail goleg mwyaf deheuol ar lan yr Afon Cam. Y lleill - o'r agosaf hyd y pellaf - yw Coleg y Brenin, Clare, Neuadd y Drindod, Coleg y Drindod, Coleg Sant Ioan, a Choleg Magdalene i'r gogledd a Choleg Darwin i'r de.

Llety'r Arlywydd yng Ngholeg y Breninesau yw'r adeilad hynaf ar yr afon yng Nghaergrawnt (tua 1460). Mae gan Goleg y Breninesau adeiladau ar y brif safle ar ddwy ochr yr afon: nodwedd a rennir gan un coleg arall yn unig, Coleg Sant Ioan.

Y Bont Fathemategol golygu

Cysylltir rhan hynaf (neu Yr Ochr Dywyll, fel y'i gelwir gan y myfyrwyr) a rhan fwyaf newydd y coleg (Yr Ochr Olau) gan y 'Bont Fathemategol', a llun y bont yw un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Caergrawnt (gyda'r llun fel rheol yn cael ei dynnu o bont Silver Street). Yn ôl yr hanes, cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont yn wreiddiol gan Syr Isaac Newton heb ddefnyddio'r un bollt na chneuyn, ac yna, rhywbryd wedi hynny, ceisiodd rhai myfyrwyr (neu gymrodorion, yn dibynnu ar ba fersiwn o'r hanes sy'n cael ei hadrodd) ei dymchwel a'i hail-adeiladu. Yn ôl yr hanes, gan nad oeddynt yn gystal peiriannwyr â Newton, bu rhaid iddynt, wedi amser hir o geisio a methu, yn y diwedd, ddefnyddio cnau a bolltydd i'w hail-adeiladu. Dyna pam y gwelir cnau a bolltydd yn y bont hyd heddiw. Celwydd yw'r stori hon: adeiladwyd y bont ym 1749 gan James Essex yr Ieuaf (17221784) yn ôl cynllun William Etheridge (17091776), dwy flynedd ar ugain ar ôl marwolaeth Newton. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1866 ac eto ym 1905, yn ôl yr un cynllun.

 
Y Bont Fathemategol

Neuadd Fitzpatrick golygu

Mae Coleg y Breninesau yn unigryw ymhlith colegau'r brifysgol gyda'i neuadd amlbwrpas, Neuadd Fitzpatrick. Cynhelir perfformiadau theatrig, ffilmiau a bopiau yno, yn ogystal â nifer o weithgareddau chwaraeon. "Queens' Ents" yw enw'r mudiad sy'n trefnu'r bopiau ac erbyn hyn mae gan y coleg enw ledled y brifysgol am drefnu'r bopiau gorau, gan ddenu enwau adnabyddus megis Lethal Bizzle, Pat Sharp a Robbo Ranx.

Cynfyfyrwyr golygu

 
Llety'r Arlywydd
 
Y Galeri Hir a'r Hen Neuadd

Rhestr Arlywyddion golygu

Meistr yw'r enw a roddir i bennaeth y rhan helaeth o golegau'r brifysgol, ond Arlywydd fu enw pennaeth Coleg y Breninesau er 1448.

  • 1448–1484: Andrew Dokett
  • 1484–1505: Thomas Wilkynson
  • 1505–1508: Sant John Fisher
  • 1508–1519: Robert Bekensaw
  • 1519–1525: John Jenyn
  • 1525–1527: Thomas Farman
  • 1527–1529: William Frankleyn
  • 1529–1537: Simon Heynes
  • 1537–1553: William Mey
  • 1553–1557: William Glyn
  • 1557–1559: Thomas Pecocke
  • 1559–1560: William Mey, eto
  • 1560–1568: John Stokes
  • 1568–1579: William Chaderton
  • 1579–1614: Humphrey Tindall
  • 1614–1622: John Davenant
  • 1622–1631: John Mansell
  • 1631–1644: Edward Martin
  • 1644–1647: Herbert Palmer
  • 1647–1660: Thomas Horton
  • 1660–1662: Edward Martin, eto
  • 1662–1667: Anthony Sparrow
  • 1667–1675: William Wells
  • 1675–1717: Henry James
  • 1717–1732: John Davies
  • 1732–1760: William Sedgwick
  • 1760–1788: Robert Plumptre
  • 1788–1820: Isaac Milner
  • 1820–1832: Henry Godfrey
  • 1832–1857: Joshua King
  • 1857–1892: George Phillips
  • 1892–1896: William Magan Campion
  • 1896–1901: Herbert Edward Ryle
  • 1901–1906: Frederic Henry Chase
  • 1906–1931: Thomas Cecil Fitzpatrick
  • 1932–1958: John Archibald Venn
  • 1958–1970: Arthur Llewellyn Armitage
  • 1970–1982: Derek William Bowett
  • 1982–1988: Ernest Ronald Oxburgh
  • 1988–1996: John Charlton Polkinghorne
  • 1997–heddiw: John Leonard Eatwell

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu