Colmán mac Lénéni

Roedd Colmán mac Lénéni (tua 530 - 606) yn fardd o Wyddel a gyfansoddai yn yr iaith Wyddeleg. Canai ar bynciau crefyddol yn bennaf.

Colmán mac Lénéni
Ganwyd15 Hydref 522 Edit this on Wikidata
Cúige Mumhan Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 600 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl24 Tachwedd Edit this on Wikidata

Credir iddo gael ei eni yn Desmond (Swydd Cork heddiw), yn ne-orllewin Iwerddon. Mae'n debygol mai Colmán a sefydlodd fynachlog Cluain Uama (Cloyne), ym Munster. Mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi i'w dyddio i'r cyfnod 565-604, ac maent ymlhith yr enghreifftiau cynharaf o ysgrifennu Gwyddeleg yn yr wyddor Ladin.

Roedd Colmán yn gyfoeswr â'r llenor a sant Columbanus. Mae un o'i gerddi yn gerdd o fawl i frenin o'r enw Domnall, i ddiolch iddo am roi cleddyf iddo :

Luin ac elaib
ungi oc dírnaib
crotha ban n-athech
oc ródaib rígnaib.
Ríg oc Domnall
dord oc aidbse
adand oc caindill
calg oc mo chailg-se.

('Mwyeilch wrth elyrch, wnsïau wrth bwysi, pryd gwragedd taeogion wrth bryd breninesau beilch, brenhinoedd wrth Domnall, mwmian wrth ganu, pren cynnau tân wrth gannwyll, dyna yw unrhyw gleddyf wrth fy nghleddyf i.')[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfieithiad gan J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958), tud. 70.