Hurfilwyr a fuont yn gapteiniaid ar gwmnïau milwrol yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar yn yr Eidal oedd y condottieri (ffurfiau unigol: condottiero neu condottiere) neu'r capitani di ventura (capitano di ventura).

Daw'r enw Eidaleg condottiero o'r gair condotta, sef y contract a gytunwyd arno gan bennaeth yr hurfilwyr a'r arweinydd a oedd yn galw ar ei wasanaeth. Yn niwedd y 13g a'r 14g, daeth nifer o'r condottieri a'u lluoedd o'r Almaen, Ffrainc, neu wledydd y Balcanau. Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd (1337–1453) trodd nifer o filwyr Lloegr a Ffrainc at filwra am dâl yn ystod y cyfnodau cadoediad, ac un o'r condottieri amlycaf oedd y Sais Syr John Hawkwood.

Erbyn y 15g, Eidalwyr oedd y mwyafrif o'r hurfilwyr a'r capteiniaid, a chawsant ran bwysig yn Rhyfeloedd yr Eidal (1494–1559). Yn ystod oes y Dadeni, y condottieri oedd yn darparu'r rhan fwyaf o luoedd arfog ar gyfer dinas-wladwriaethau'r Eidal. Pendefigion oedd y nifer fwyaf o condottieri, a oedd yn sicrhau annibyniaeth eu gwladwriaethau drwy gynorthwyo pwerau cyfagos. Llwyddodd dugiaid Ferrara, Mantova, ac Urbino i ddiogelu eu diddordebau lleol drwy ddarparu milwyr ar gyfer gwladwriaethau mwy. Er i drefn y condottieri sefydlogi grym yn yr Eidal, bu cwmnïau bychain o hurfilwyr yn brawychu cymdeithas os nad oeddynt yn derbyn tâl, a throdd y rhai heb waith at fanditiaeth yn aml. Buont yn destun dirmyg gan rai, er enghraifft Niccolò Machiavelli, a honnant bod natur yr alwedigaeth yn atynnu dynion ariangar ac anrheithiol a chanddynt reddf fradwrus a thuedd at ysgarmesu yn hytrach na brwydro'n benben ar faes y gad. Er gwaethaf y cyhuddiadau hyn, ymladdodd y mwyafrif o'r condottieri yn ffyddlon ac yn effeithiol dros eu cyflogwyr, ac o'r herwydd defnyddiwyd y drefn hon gan wladwriaethau Ewrop am sawl canrif.

Yn ystod Rhyfeloedd Crefydd Ewrop, yn sgil gwrthdaro'r Diwygiad Protestannaidd a'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig yn yr 16g, cyflogwyd y condottieri olaf gan frenhinoedd a dugiaid Ewrop. Ym Mrwydr y Mynydd Gwyn (1620), un o'r ymladdfeydd pwysig yn nechrau'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48), enillodd y Gynghrair Gatholig, dan arweiniad Johan t'Serclaes, yn erbyn byddinoedd Bohemia a'r Etholaeth Balatin. Cyflogwyd Ernst von Mansfeld, a oedd yn Gatholig, i frwydro dros achosion y Protestaniaid, gan gynnwys yr Etholydd Palatin Ffredrig V, Christian von Braunschweig-Wolfenbüttel, a Thaleithiau Unedig yr Iseldiroedd.

Ym 1506 sefydlwyd y Gwarchodlu Swisaidd gan y Pab Iŵl II, ac er i droedfilwyr Swisaidd gyfrannu yn helaeth at fyddinoedd y Babaeth yn ogystal â lluoedd brenhinoedd Ffrainc, ni rhoddir yr enw condottieri ar yr hurfilwyr hyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 90–91.