Connie Fisher

actores a aned yn 1983

Cantores ac actores yw Connie Fisher (ganed 17 Mehefin 1983) a ddaeth i'r amlwg wrth ddod yn enillydd yn rhaglen y BBC How Do You Solve A Problem Like Maria sef rhaglen a oedd yn chwilio am y Maria gorau i chwarae rhan yn y sioe gerdd The Sound of Music yr oedd Andrew Lloyd Webber am lwyfannu yn Llundain. Mae hi'n siarad Cymraeg gan y magwyd ger Hwlffordd, Sir Benfro.

Connie Fisher
Ganwyd17 Mehefin 1983 Edit this on Wikidata
Lisburn Edit this on Wikidata
Label recordioFascination Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Mountview Academy of Theatre Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.conniefisher.co.uk Edit this on Wikidata

Bu'n aelod o Gôr Newyddion Da pan yn ifanc iawn ac yr oedd yn gystadleydd rheolaidd yn eisteddfodau Urdd Gobaith Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Agorodd y sioe The Sound of Music ar 15 Tachwedd 2006 i adolygiadau canmoliaethus iawn yn y West End, Llundain.

2008 i'r Presennol golygu

Daeth ei chyfnod yn y sioe i ben ar 23 Chwefror 2008 gyda Summer Strallen yn cymryd y rhan yn ei lle.[1]

Daeth yn aelod o'r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009

Ffynonellau golygu

  1. Nathan, John (4 January 2008). "Lloyd Webber Solves Maria Problem – Again". Playbill.com. Cyrchwyd 5 IOnawr 2008. Check date values in: |accessdate= (help)


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.