Corddi yw'r broses o droi llaeth neu hufen yn fenyn. fel rheol, mae'r hufen yn cael ei gymeryd oddi ar y llaeth, a'i adael i suro cyn ei gorddi. Defnyddir peiriant corddi i droi neu symud yr hufen nes i'r menyn ffurfio o'r brasder sydd ynddo, gan adael llaeth enwyn yn weddill.

Peiriant corddi modern yn yr Iseldiroedd

Arferid corddi â llaw mewn buddai, math o gasgen ar echel y gellid ei throi. Erbyn hyn, defnyddir peiriannau i wneud y gwaith.

Hen fuddai gorddi