Coridor Pwylaidd

llain o dir Pwylaidd rhwng y ddau Ryfel Byd yn rhoi agoriad i'r wladwriaeth newydd i'r môr

Roedd Coridor Pwylaidd (weithiau Coridor Gdansk neu Coridor Danzig (Almaeneg: Polnischer Korridor; Pwyleg: Korytarz gdański) yn llain o diriogaeth a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn sgîl Chytundeb Versailles ar 28 Mehefin 1919. Rhoddodd i wladwriaeth newydd Gwlad Pwyl, a sefydlwyd ar 3 Tachwedd 1918, fynediad i'r Môr Baltig er mwyn i'r wladwriaeth newydd allu gweithredu'n economaidd heb fod yn hollol ddibynnol ar yr Almaen. Roedd yr ardal fach, ond roedd porthladd bwysig Gdansk bresennol ("Danzig" wrth ei henw Almaeneg a mwyaf cyffredin i'r byd tu hwnt i Wlad Pwyl hyd nes diwedd yr Ail Ryfel Byd) a sba glan-môr boblogaidd, Sopot. Roedd y llain a'r porthladd yn gwahanu prif gorff tiriogaeth yr Almaen oddi wrth talaith Almaeneg Dwyrain Prwsia. Daliau i Ddwyrain Prwsia fod yn rhan o'r wladwriaeth Almaeneg - Gweriniaeth Weimar ac yna, wedi 1933, yr Almaen o dan y Natsïaid hyd nes 1945. Daeth Danzig a'r Coridor Pwylaidd yn bynciau trafod llosg trwy gydol yr 1920au ac yn enwedig yr 1930au.

Coridor Pwylaidd
Enghraifft o'r canlynolcoridor daear-wleidyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Coridor Pwylaidd 1923–1939
Mwyafrif Pwyliaid (gwyrdd) ac Almaeneg yn y Coridor (Cyfrifiad Ymerodraeth yr Almaen 1910).

Cyfansoddiad ethnig golygu

Efallai mae'r cyfrifiad data gynharaf ar weithuriad ethnig Gorllewi Prwsia (gan gynnwys llawer o'r ardal a ddaeth, maes o law, i gynnwys Coridor Pwylaidd, yw'r un o 1819.[1]

Data Ethnig/Cenedligrwydd (Nationalverschiedenheit) Gorllewin Prwsia in 1819[1]
Grŵp Ethnig/Cenedligrwydd Poblogaeth (rhif) Poblogaeth (canran)
Pwyliaid (Polen) 327,300 52%
Almaenwyr (Deutsche) 290,000 46%
Iddewon (Juden) 12,700 2%
Cyfanswm 630,077 100%

Rhoddodd Karl Andree, "Polen: in geographischer, geschichtlicher und culturhistorischer Hinsicht" (Leipzig 1831), gyfanswm poblogaeth Gorllewin Prwsia fel 700,000 preswylydd - gan gynnwys 50% Pwyliaid (350,000), 47% Almaenwyr (330,000) a 3% Iddewon (20,000).[2]

Mae data o 19g a dechrau'r 20g yn dangos y newidiadau canlyno o'r pedward sir "graidd" yn yr hyn a ddaeth yn y Coridor Pwylaidd; (Puck, Wejherowo - ar arfordir Môr y Baltig - a Kartuzy,, Kościerzyna - rhwng talaith Pomerania (1815–1945) (Provinz Pommern) a Dinas Rydd Danzig. Roedd Map siroedd Puck (77.4%), Wejherowo (54.9%), Kartuzy (77.3%) a Kościerzyna (64.5%) Pwyliaid ethnig (yn cynnwys Cashwbiaid) ar ddiwedd yr Ryfel Byd Cyntaf, yn ôl map Pwyleg[3] a gynoeddwyd yn 1919 yn Warsaw.

Cyd-destun golygu

Roedd tiriogaeth y Coridor wedi cynnwys amrywiaeth o boblogaeth Bwylaidd ac Almaeneg, gydag, yn fras, dinas Danzig yn Almaenig, ond gweddill y 'Coridor' yn fwy Pwyleg. O ganlyniad roedd beirniaid llym i'r term "coridor" o du nifer o Bwyliaid. Dywedodd Weinidog Tramor Gwlad Pwyl, Józef Beck, mewn araith ar 5 Mai 1939 yn Sejm (senedd Gwlad Pwyl): "Rwy'n mynnu y dylid defnyddio'r term Voivodina Pomerania. Mae'r gair "coridor" yn syniad artiffisial, gan fod y tir hwn wedi bod yn Bwylaidd ers canrifoedd, gyda chanran fach o ymsefydlwyr o'r Almaen ".[4] Byddai Pwyliaid yn cyfeirio'n gyffredin at y rhanbarth fel Pomorze Gdańskie ("Pomerania Gdańsk, Pomerelia") neu yn syml Pomorze ("Pomerania"), neu fel województwo pomorskie ("Voivodeniad Pomerania"), sef enw gweinyddol y rhanbarth.

Cyflwyno i Wlad Pwyl golygu

Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf fynd yn ei flaen cafwyd lobïo o du'r Pwyliaid dros angenreidiolrwydd Gwlad Pwyl annibynnol i gael mynediad i Fôr y Baltig fel na fyddai'n hollol ddibynnol ar yr Almaen. Lobïwyd a ymladdwyd dros i Orllewin Prwsia neu cyfran ohoni i fod yn rhan o'r wladwriaeth Bwylaidd newydd. Heb borthladd ei hun, byddai annibyniaeth Gwlad Pwyl yn rith.[5] Roedd oddeutu 60.5% o fewnforion masnachol Gwlad Pwyl a 55.1% o'i hallforion yn mynd drwy'r Coridor.[6] Nododd yr adroddiad Comisiwyn y Pwyliaid a gyflwynwyd i Uwch Gyngor y Cynghreiriaid (Prydain a Ffrainc gan fwyaf):

"1,600,000 Germans in East Prussia can be adequately protected by securing for them freedom of trade across the corridor, whereas it would be impossible to give an adequate outlet to the inhabitants of the new Polish state (numbering 25,000,000) if this outlet had to be guaranteed across the territory of an alien and probably hostile Power."[7]

Derbyniodd Prydain ddadl graidd y Pwyliaid ac enillodd y wladwriaeth newydd allanfa i'r môr.

Datganwyd dinas Gdansk yn ffurfiol yn “Ddinas Rydd Danzig ” o dan reolaeth Cynghrair y Cenhedloedd, ond roedd hi o dan reolaeth Gwlad Pwyl yn ymarferol. Serch y rheolaeth Pwyleg, Almaenwyr oedd yn byw yn Danzig yn bennaf, ac yng nghyfrifiad 1910 Almaenwyr oedd 42% o boblogaeth y Coridor. Bu'n rhaid i'r Gwlad Pwyl adael Danzig ar 6 Mawrth 1932 ac ymdopi gyda dim ond porthladd tref Gdynia gyfagos fel eu hunig borthladd. Erbyn 1938, roedd 77.7% o allforion Gwlad Pwyl yn gadael inau drwy Gdańsk (31.6%) neu borthladd newydd Gdynia (46.1%)[8]

Testun Tensiwn a Rhyfel golygu

Daeth y Coridor enwog yn un o brif honiadau’r Almaen cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd: roedd Hitler yn dymuno cysylltu Dwyrain Prwsia â gweddill yr Almaen trwy briffordd a rheilffordd, er mwyn caniatáu i nwyddau a phobl symud yn rhydd. rhwng y ddwy diriogaeth (heb ymgymryd â rheolaethau tollau na dyletswyddau o unrhyw fath); roedd hyn yn rhan o wleidyddiaeth pang-Almaenig ac iredentiaeth yr Almaen, a fyddai wedi arwain at ailuno'r holl boblogaethau Almaeneg eu hiaith. At hynny, roedd yr honiadau hyn yn gyson ag egwyddor hunanbenderfyniad a gynhwyswyd yn benodol yng Nghytundeb Versailles 1919. Gan nad oedd Gwlad Pwyl yn barod i ateb y gofynion hyn, gweithredodd Hitler gytundeb gudd Cytundeb Molotov–Ribbentrop rhwng yr Almaen Natsiaidd â'r Undeb Sofietaidd i gynnal cyrch cyfun. Y canlyniad oedd goresgyniad Danzig a gweddill tiriogaeth Gwlad Pwyl ym mis Medi 1939.

Wedi'r Ail Ryfel Byd golygu

 
Llinell Oder–Neisse

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd o dan bwysau Stalin bu'n rhaid i Wlad Pwyl ildio peth o diriogaeth Dwyrain Prwsia gyda rhan ohono'n dod yn rhan integral o'r Undeb Sofietaidd (a bellach Ffederasiwn Rwsia fel Kaliningrad). Collodd Gwlad Pwyl llawer o'i tiroedd dwyreiniol i'r Undeb Sofietaidd, (rhannau gorllewinnol Iwcrain a Belarws annibynnol gyfoes) ond bu i'r Pwyliaid ennill y cyfan o Silesia a rhan orllewinnol Prwsia ar draul yr Almaen, a daeth yr hyn oedd yn Goridor Danzig yn rhan anatod o'r Gwlad Pwyl newydd. Mewn gwirionedd, symudodd ffiniau cyfan Gwlad Pwyl i gyd rhyw 200 km i'r gorllewin gan ddily, yn fras, ffiniau naturiol yr afonydd Oder a'r Neisse - Llinell Oder-Neisse.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hassel, Georg (1823). Statistischer Umriß der sämmtlichen europäischen und der vornehmsten außereuropäischen Staaten, in Hinsicht ihrer Entwickelung, Größe, Volksmenge, Finanz- und Militärverfassung, tabellarisch dargestellt; Erster Heft: Welcher die beiden großen Mächte Österreich und Preußen und den Deutschen Staatenbund darstellt. Verlag des Geographischen Instituts Weimar. t. 42.
  2. Andree, Karl (1831). Polen: in geographischer, geschichtlicher und culturhistorischer Hinsicht. Verlag von Ludwig Schumann. t. 212.
  3. Mapa_rozsiedlenia_ludności_polskiej_z_uwzględnieniem_spisów_z_1916_roku.jpg
  4. Official webpage of Polish Sejm, Chronicle of speeches[dolen marw]
  5. Out of the Ashes James Thorburn Muirhead 1941, page 54
  6. The Crises of France's East Central European Diplomacy, 1933-1938 - page 40 Anthony Tihamer Komjathy - 1976
  7. The Danzig dilemma: a study in peacemaking by compromise by John Brown Mason Stanford university press 1946, page 49
  8. Przegląd zachodni: Volume 60, Issues 3-4Instytut Zachodni - 2004, tud. 42 view