Cosmopolitaniaeth

Ideoleg sy'n honni bod holl grwpiau cymdeithasol dynoliaeth – gan gynnwys grwpiau ethnig, cenedlaethol, a diwylliannol – yn perthyn i un gymuned yn seiliedig ar foesoldeb cyffredin yw cosmopolitaniaeth. Mae'n groes i ddamcaniaethau cymunedol a neilltuolaidd, yn enwedig syniadau gwladgarwch a chenedlaetholdeb.

Daw'r gair o'r geiriau Groeg cosmos Κόσμος (y bydysawd) a polis Πόλις (dinas).

Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.