Crefyddau Abrahamig

Crefyddau sy'n deillio, yn ôl eu proffeswyr, o'r cyfamod rhwng Duw ac Abraham (a ddyddir gan rai i tua 2000 CC) yw'r crefyddau Abrahamig. Y tair crefydd Abrahamig yw Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Y cysyniad o Undduwiaeth ac arddel Abraham fel un o'r proffwydi mawr yw'r prif elfennau sy'n gyffredin i'r tair crefydd, ond rhennir llawer o nodweddion eraill hefyd. Fel y mae Cristnogion yn ystyried y Gristnogaeth (sef dysgeidiaeth Iesu Grist yn y Testament Newydd) yn olynydd i Iddewiaeth (sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a thraddodiadau'r Hen Destament), mae Mwslemiaid yn credu y cafodd ysgrythurau'r Iddewon a'r Cristnogion eu "llygru" gyda threigl amser a bod eu llyfr sanctaidd, y Coran, wedi cael ei ddatguddio i'r proffwyd Mohamed i adfer y Gwir ysgrythurol.

Symbolau y tair crefydd Abrahamig
Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.