Creigiau Gleision

mynydd (678m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Creigiau Gleision. Saif rhwng pentref Capel Curig a Trefriw yn Sir Conwy. Ef yw'r mwyaf dwyreiniol o gopaon y Carneddau, ac mae Llyn Cowlyd yn ei wahanu oddi wrth gopa Pen Llithrig y Wrach a phrif gribau y Carneddau. I'r gogledd-ddwyrain ceir crib Cefn Cyfarwydd.

Creigiau Gleision
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr678 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1359°N 3.9014°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7290261540 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd262 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd Llywelyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Mewn gwirionedd mae i'r mynydd dri copa. Y copa mwyaf deheuol yw'r uchaf. Gellir ei ddringo o Gapel Curig.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.