Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol (Homo sapiens sapiens) cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf o Ewrop. Y term cyfoes yw ‘bodau dynol modern cynnar yr Ewrop’ (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.[1]

"Hen ŵr Cro-Magnon", Musée de l'Homme, Paris.
Offer llaw Cro-Magnon – Casgliad Louis Lartet

Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP).[2][3] Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.[4][5]

O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.[6]

Etymoleg golygu

 
Canfuwyd gweddillion cyntaf Cro-Magnon yma yn Abri de Cro-Magnon, yn 1868.

Daw'r enw o le o'r enw Abri de Cro-Magnon ("abri" yw'r gair Ffrangeg am "gysgod craig", "cro" yw'r Ocsitaneg am "dwll" neu "wagle"[7] a "Magnon" oedd enw perchennog y tir ar y pryd. Saif ym mhentref bychan Les Eyzies yng nghymuned Les Eyzies-de-Tayac-Sireuil yn ne-orllewin Ffrainc, ble y canfuwyd y gweddillion cyntaf. Oherwydd y cysylltiad agos gyda dyn modern (Homo sapiens sapiens), cysylltir paentiadau Ogof Lascaux.

Cyfeiriadau golygu

  1. Fagan, B.M. (1996). The Oxford Companion to Archaeology. Oxford, UK: Oxford University Press. tt. 864. ISBN 978-0-19-507618-9.
  2. Benazzi, S.; Douka, K.; Fornai, C.; Bauer, C. C.; Kullmer, O.; Svoboda, J. Í.; Pap, I.; Mallegni, F. et al. (2011). "Early dispersal of modern humans in Europe and implications for Neanderthal behaviour". Nature 479 (7374): 525. Bibcode 2011Natur.479..525B. doi:10.1038/nature10617. PMID 22048311.
  3. Higham, T.; Compton, T.; Stringer, C.; Jacobi, R.; Shapiro, B.; Trinkaus, E.; Chandler, B.; Gröning, F. et al. (2011). "The earliest evidence for anatomically modern humans in northwestern Europe". Nature 479 (7374): 521. Bibcode 2011Natur.479..521H. doi:10.1038/nature10484. PMID 22048314.
  4. doi:10.1038/35092552
    This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand
  5. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-08-14. Cyrchwyd 2015-10-22.
  6. "Cro-Magnon". Encyclopædia Britannica Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-26. Cyrchwyd Hydref 2010. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. "Cros". Cyrchwyd 2014-08-15.