Cronfa Craig Goch

argae ym Mhowys

Cronfa garreg yw Cronfa Craig Goch, a leolir yn Nyffryn Elan, Powys - yr uchaf o'r argaeon yn y dyffryn. Cychwynwyd ar y gwaith o'i chodi yn 1897 a gorffennwyd y gwaith yn 1904. Pwrpas yr argae yw cyflenwi Birmingham, Lloegr gyda dŵr yfed.[1][2]

Cronfa Craig Goch
Mathargae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhayader Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr289.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3047°N 3.6239°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Cronfa ddŵr Craig Goch

Mae'r argae garreg yn 317 metr (1040 tr) uwch lefel y môr. O ran uchder y wal, mae'r argae'n 56 metr ac yn cael ei chynnal gan 13 bwa ac mae ganddi barapetau carreg.

Trydan golygu

Yn 1997, gosodwyd generadur 480 kW i gynhyrchu Egni hydro yn rhan o'r argae.[3][4] Codwyd pedwar tyrbin Francis ac un tyrbin tanddwr Kaplan wrth draed yr holl argaeau a Thŵr y Foel.

Hanes golygu

Ni roddwyd iawndal i'r cant o drigolion a symudwyd o Gwm Elan; ond derbyniodd y tirfeddianwyr iawndal. Effeithiodd y cynllun ar ddeunaw o fythynnod a ffermdai, ysgol, eglwys a dau blasty. Cymerodd 13 blwyddyn i gwbwlhau'r gwaith o godi'r argaeau: rhwng 1893 a 1906. Y gronfa ddŵr gyntaf i gael ei chodi, fel rhan o'r gadwen o argaeon oedd argae Caban Coch ac yna cronfa ddŵr ac argae Penygarreg a chronfa ddŵr ac argae Craig Goch yn dilyn hynny. Mae Tŵr Y Foel yn sefyll 52 metr uwchlaw Cronfa Ddŵr Frankley yn Birmingham ac mae'r dŵr yn cael ei drosglwyddo drwy draphont ddŵr 117 cilometr o hyd. Rhwng cronfeydd dŵr Garreg Ddu a Chaban Coch mae argae Garreg Ddu'n adeiledd tanddwr. Mae'n dal y dŵr yn ôl fel y gall gael ei echdynnu yn Nhŵr Y Foel.

Pan agorwyd y cynllun yn swyddogol gan y Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra ar 21 Gorffennaf 1904 roedd y gwaith bron iawn wedi'i gwblhau. Mae'r argae (a gweddill yr argaeon) yn parhau i gyflenwi dŵr Birmingham (2017). Rhwng 1948 a 1952 adeiladwyd argae Claerwen i ddyblu cynhwysedd y cynllun gwreiddiol i 345,500,000 litr o ddŵr bob diwrnod.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "CRAIG GOCH DAM, ELAN VALLEY WATER SCHEME". Royal Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 17 Mawrth 2011.
  2. "The Elan Valley dams - Craig Goch dam". Powys Digital History Project. Cyrchwyd 17 Mawrth 2011.
  3. "Dams & Reservoirs". Elan Valley. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-24. Cyrchwyd 19 Mawrth 2011.
  4. "Elan Valley Hydro Scheme". University of Strathclyde. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-23. Cyrchwyd 19 Mawrth 2011.