Ffurf ar wniadwaith yw crosio sydd yn broses o greu ffabrig trwy gyd-gloi dolenni o edau, edafedd, neu geinciau o ddeunyddiau eraill gan ddefnyddio bachyn crosio.[1]

Manylyn o liain bwrdd o waith crosio a wnaed ym Mhortiwgal, tua 1970.

Mae'r enw yn deillio, drwy'r Saesneg, o'r term Ffrangeg crochet, sy'n golygu "bachyn bychan". Gall bachyn fod wedi'i wneud o fetel, pren neu blastig, ei weithgynhyrchu yn fasnachol neu gynhyrchu mewn gweithdy crefft.

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng crosio a gweu, ar wahan i'r offer sy'n cael ei ddefnyddio, yw bod pob pwyth wrth grosio yn cael ei gwblhau cyn y nesaf, tra bod nifer o bwythau yn cael eu cadw ar agor ar yr un pryd wrth weu.

Daw'r enghreifftiau cynharaf o waith crosio o'r 19g. Mae'r cyfarwyddiadau cyhoeddiedig cynharaf ar gyfer crosio yn ei ffurf bresennol i'w canfod mewn rhifyn o'r cylchgrawn Iseldireg Penélopé a gyhoeddwyd yn 1823.

Cyfeiriadau golygu

  1.  crosio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Awst 2018.