Un o'r 88 cytser seryddol yw Crux, y cytser lleiaf o safbwynt maint yn y wybren. Mae gan Crux bedair seren ddisglair sy'n amlinellu siâp croes: Crux yw'r gair Lladin am groes. Mae'r cytser yn eithaf agos i begwn wybrennol y de, a felly yn rhy bell i'r de i fod yn weladwy o'r rhan fwyaf o hemisffer gogleddol y byd. Adnabyddir yn boblogaidd fel y Groes Ddeheuol.

Crux
Enghraifft o'r canlynolcytser Edit this on Wikidata
Label brodorolKrzyż Południa Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1590s Edit this on Wikidata
Enw brodorolSouthern Cross Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Crux

Mae'r sêr disgleiriaf wedi'u enwi trwy ddefnyddio llythrennau Groegaidd a ffurf Lladin genidol y cytser, Crucis. Cru yw'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser. Alffa Crucis, neu α Cru, felly yw'r seren ddisgleiriaf yn y cytser. Defnyddir yr enw Acrux yn aml am Alffa Crucis, ond mae'r tarddiad ddim yn un hen iawn. Beta Crucis (β Cru), Gamma Crucis (γ Cru) a Delta Crucis (δ Cru) yw'r sêr eraill yn batrwm y groes.

Mae Crux yn cynnwys rhan o'r Llwybr Llaethog, a felly mae nifer o nifylau a chlystyrau sêr yn y cytser. Un o'r nodweddion amlycaf yw'r nifwl tywyll o'r enw'r Sach Glo, sy'n edrych fel parth du, tywyll, yn y Llwybr Llaethog i'r llygad noeth. Ymddangosir y cwmwl nwy a llwch oer hwn yn ddu oherwydd bod y llwch sydd yn wasgaredig trwyddo'n amsugno golau sêr sydd tu ôl.

Ymhlith y cystyrau sêr yn y cytser yw NGC 4755, sydd yn cael ei adnabod yn boblogaidd fel y Blwch Gemau.

Cytser Crux yn dangos nifwl tywyll y Sach Glo
Clwstwr agored NGC 4755, adnabyddir fel y Blwch Gemau
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.