Un o ddinasoedd mwyaf Mesopotamia oedd Ctesiphon. Daw'r enw Lladin 'Ctesiphon' neu 'Ctesifon' o'r Groeg 'T(h)esifon' neu 'Et(h)esifon','Ktesiphon' mewn Groeg diweddarach. Safai ar lan ddwyreiniol Afon Tigris, gyferbyn a dinas Roegaidd Seleucia. Mae yn awr yn Irac, tua 35 km i'r de o Baghdad.

Ctesiphon
Mathdinas hynafol, safle archaeolegol, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth500,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeleucia-Ctesiphon Edit this on Wikidata
SirAsuristan Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Arwynebedd30 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tigris Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSeleucia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.09361°N 44.58083°E Edit this on Wikidata
Map

Ctesiphon oedd prifddinas ymerodraeth Parthia a phrifddinas brenhinllin y Sassanid yn ddiweddarach. Yn y 6g, hi oedd dinas fwyaf y byd. Yr unig olion sydd i'w gweld bellach yw bwa mawr Taq-i Kisra, yn y rhan sy'n awr yn dref Salman Pak.

Oherwydd ei phwysigrwydd strategol, bu llawer o ymladd o gwmpas Ctesiphon. Cipiwyd hi nifer o weithiau gan yr Ymerodraeth Rufeinig, yn fwyaf nodedig gan yr ymerawdwr Trajan yn 115. Dychwelwyd y ddinas i'r Parthiaid gan ei olynydd Hadrian yn 117 fel rhan o gytundeb heddwch. Cipiwyd hi eto gan y cadfridog Rhufeinig Avidius Cassius yn 164, ac yn 197, anrheithiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Septimius Severus, a werthodd filoedd o'r trigolion fel caethion. Lladdwyd yr ymerawdwr Julian mewn brwydr tu allan i'r muriau yn 363 yn ystod ei ryfel yn erbyn Shapur II.

Bu brwydr o gwmpas adfeilion Ctesiphon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan orchfygwyd byddin Brydeinig oedd yn ceisio cipio Baghdad gan fyddin yr Ymerodraeth Ottoman.