Culfor Dover

culfor ym man culaf y Môr Udd

Culfor ym man culaf y Môr Udd, sy'n gwahanu Prydain Fawr a chyfandir Ewrop, yw Culfor Dover[1] neu Culfor Dofr[2] (Saesneg: Dover Strait neu Straits of Dover; Ffrangeg: Pas de Calais). Dyma'r ffin rhwng y Môr Udd i'r de-orllewin a Môr y Gogledd i'r gogledd-ddwyrain.

Culfor Dover
Mathculfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCalais, Dover Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig, Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSangatte Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51°N 1.45°E Edit this on Wikidata
Map

Mae pwynt culaf y culfor i'w gael o bentir South Foreland, i'r gogledd-ddwyrain o borthladd Dover, Caint, De-ddwyrain Lloegr, i bentir Cap Gris-Nez, ger Calais yn département Pas-de-Calais, Ffrainc – pellter o 33.3 km (20.7 mi). Rhwng y pentiroedd hyn yw'r ffordd fwyaf poblogaidd i nofwyr traws-sianel.

Mae'r culfor cyfan o fewn dyfroedd tiriogaethol Ffrainc a'r Deyrnas Unedig, ond mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr yn caniatáu i longau gwledydd eraill fynd drwodd heb gyfyngiad.

Clogwyni Gwyn Dover a welir o Cap Gris-Nez ar draws Culfor Dover

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Atlas Cymraeg Newydd
  2. Geiriadur yr Academi, Dover > the Straits of Dover.