Mewn cerddoriaeth, y cwafer yw'r nodyn a chwarëir am wythfed amser yr hannerbrif.

Ffigwr 1. Cwafer gyda choesyn yn wynebu i fynny, cwafer gyda choesyn yn wynebu i lawr a saib y cwafer.
Ffigwr 2. Pedwar cwafer wedi'u cysylltu â'i gilydd.

Fe'i nodir gyda chylch hir-grwn du gyda choesyn syth gydag un faner. (Gweler Ffigwr 1.). Symbol sy'n perthyn iddo yw saib y cwafer sydd yn dynodi tawelwch am yr un cyfnod o amser.

Yn Unicode y symbol yw: U+266A () os unigol neu U+266B () os mewn parau.

Llunir y nodau gyda'r coesynnau yn wynebu i lawr ac i dde pen y nodyn os yw'r nodyn yn is na llinell ganol yr erwydd ac y gwrthwyneb os yw'n uwch na'r llinell ganol.

Mae'r baneri wastad ar ochr dde y coesyn gan gylchu i'r dde. Ar y coesynnau sy'n wynebu i fyny, mae'r faner yn dechrau ar y pen ac yn cylchu i lawr; ar goesynnau sydd yn wynebu i lawr, mae'r baneri yn y dechrau ar waelod y coesyn ac yn cylchu i fyny.

Pan mae yna nifer o gwaferi ar bwys ei gilydd, fe gysylltir y coesynnau gyda phelydr yn hytrach na baner, fel dengys Ffigwr 2.

Daw'r gair "cwafer" o'r gair Saesneg, "quaver" sydd yn dod o'r ferf "to quaver" sy'n golygu i ganu mewn triliau.

Mae'r enwau ar gyfer y nodyn hwn yn ieithoedd Ewropeaidd yn amrywio'n fawr fel dengys y tabl isod:

Iaith Enw'r nodyn Enw'r saib
Almaeneg Achtelnote Achtelpause
Ffrangeg croche demi-soupir
Eidaleg croma pausa di croma
Sbaeneg corchea silencio de corchea
Portiwgaleg colcheia pausa de colcheia

Gweler hefyd golygu