Enw ar weithiwr di-grefft, gan amlaf llafurwr neu borthor, o Dde neu Ddwyrain Asia yn y 19g yw cwli.[1]

Cwli Tsieineaidd ym Mheriw (1881).

Geirdarddiad golygu

Daw'r gair naill ai o'r enw llwythol Hindi Kuli, neu'r gair Tamileg kuli sy'n golygu "cyflog".[2]

Y fasnach gwli golygu

Dechreuodd y fasnach gwli yn y 1840au i gyflenwi'r prinder llafur o ganlyniad i ymdrechion ar draws y byd i ddiddymu caethwasiaeth. Daeth y mwyafrif ohonynt o Tsieina, a nifer ohonynt wedi eu hallforio o borthladdoedd Xiamen (Amoy) a Macau. Cawsant eu danfon i weithio mewn trefedigaethau Ewropeaidd megis Hawaii, Seilón, Maleia, a'r Caribî, yn bennaf dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig ac i raddau llai Ymerodraeth Ffrainc ac Ymerodraeth Sbaen.

Statws amrywiol ac ansicr oedd gan y cwlis. Cytunodd y mwyafrif ohonynt i werthu eu llafur heb orfodaeth, am gyfnod pennodol, am dâl ac am gostau'r daith. Cafodd nifer hefyd eu herwgipio, eu twyllo, neu eu hannog ar gam gan fasnachwyr Ewropeaidd. Fe'u cedwid mewn corlannau cyn eu hallforio, mewn amodau creulon a chyfyng arnynt, ac o'r herwydd bu farw rhai ohonynt o afiechyd ar y fordaith. Ni wnaeth llywodraethau Ewrop fawr o ymdrech i atal camdriniaeth y cwlis, ac er i lywodraeth Tsieina gwahardd allfudo yn swyddogol hyd at 1859, ni chafodd y fasnach ei rhwystro gan yr awdurdodau. Roedd yr amodau yn arbennig o wael yn y cyfnod 1845–1860, pryd bu farw miloedd ar filoedd o gwlis yng Nghiwba a Pheriw. Cytunodd Guangzhou yn 1859 i adael gweithwyr ar gytundebau pum-mlynedd i ymfudo i India'r Gorllewin i weithio yn nhrefedigaethau Prydeinig, ac yn ddiweddarach lluniwyd rheolau tebyg rhwng y Tsieineaid â gwledydd Ewropeaidd eraill. Rhoddwyd cyfyngiadau ar longau Prydeinig gan Ddeddf Teithwyr Tsieineaidd (1885), ac wedi hynny daeth y fasnach yn bennaf dan reolaeth Ymerodraeth Portiwgal.[3]

Daeth nifer o gwlis, yn enwedig o Ddwyrain Asia, i Awstralia a Chaliffornia yn ail hanner y 19g. Roeddynt yn bwysig wrth adeiladu'r rheilffyrdd yng Ngorllewin Canada a Gorllewin yr Unol Daleithiau.Rhoddir yr enw cwli yn aml ar weithwyr o Tsieina, Japan, ac is-gyfandir India a ymfudodd i Awstralia a Chaliffornia fel rhan o'r rhuthradau am aur yng nghanol y 19g. Yn gywir, mewnfudwyr rhydd oeddynt ac nid llafurwyr dan gytundeb neu weithwyr ymrwymedig, er iddynt gael eu camdrin yn aml gan yr Ewropeaid a'r Americanwyr megis y cwlis.[2]

Erbyn diwedd y 19g, roedd llai o angen ar gwlis o ganlyniad i gyfraddau cynyddol o fewnfudo rhydd, yn enwedig i'r Amerig ac i Oceania. Bu nifer o weithwyr croenwyn yn anfodlon cydweithio a chystadlu â'r cwlis a mewnfudwyr eraill, a'r awdurdodau yn dymuno lleihau'r boblogaeth Asiaidd am resymau cymdeithasol neu hiliol. Pasiwyd Deddf Gwahardd Tsieineaid (1888) yn yr Unol Daleithiau a Deddf Gwaharddiad Mewnfudo (1901) yn Awstralia, a rhoddwyd treth y pen o $500 ar gwlis yng Nghanada yn 1904. Parhaodd y fasnach yn nechrau'r 20g, gyda chyfyngiadau ar yr hen arferion. Cafodd 50,000 o Tsieineaid eu recriwtio yn 1904 gan y Prydeinwyr i weithio yn y cloddiau aur yn y Transvaal. Daeth y fasnach i ben yn is-gyfandir India yn 1922.[3]

Defnydd cyfoes o'r enw golygu

Mewn nifer o wledydd, ystyrir yr enw bellach yn air difrïol i ddisgrifio pobl o Dde a Dwyrain Asia.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "coolie".
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Coolie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "Coolie labour", The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Chwefror 2019.