Gair neu ymadrodd sy'n anodd ei lefaru oherwydd trefn o gytseiniaid tebyg yw cwlwm tafod.[1] Ymhlith y clymau tafod Cymraeg mae "lladd dafad ddall" (sydd hefyd yn balindrom) a "hwch goch a chwech cochion bach".[2] Neu Hwch goch a chwech o berchyll cochion bach.

Difyrrwch neu gêm eiriau yw'r cwlwm tafod, ac yn aml fe'i drosglwyddir o oes i oes gan ddod yn rhan o lên gwerin yr iaith. Defnyddir weithiau i geisio cael gwared â'r ig ac i wella namau ar y lleferydd megis lisb, ac i brofi os yw dannedd gosod yn ffitio'r geg yn iawn. Defnyddir clymau tafod hefyd wrth brofi ymgeiswyr am swyddi cyflwyno neu sylwebu yn y diwydiant darlledu.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [tongue: tongue-twister].
  2. Amanda Thomas. A Welsh Miscellany (Zymurgy, 2004), t. 58.
  3. (Saesneg) tongue twister. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Awst 2015.


  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.