Cwm Gwaun

pentref yn Sir Benfro

Cymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Cwm Gwaun. Saif yn nyffryn Afon Gwaun i'r de-ddwyrain o dref Abergwaun.

Cwm Gwaun
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9688°N 4.8666°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000422 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Nid oes pentref o unrhyw faint o fewn y gymuned; Pont-faen yw'r sefydliad mwyaf. Ceir nifer o nodweddion diddorol yma, yn arbennig Parc y Meirw, rhes o feini hirion o Oes yr Efydd yn Llanllawer; y rhes hiraf yng Nghymru. Hefyd ym mhlwyf Llanllawer, ger yr hen eglwys, ceir ffynnon sanctaidd sy'n dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn-Gristnogol efallai. codwyd adeilad i'w chysgodi yn yr Oesoedd Canol ac mae'n dal i dderbyn ymweliadau heddiw.

Mae'r ardal yn adnabyddus am ddathlu'r Hen Galan ar 13 Ionawr. Adeiladwyd Eglwys Sant Brynach, Pont-faen yn y 1860au, ac mae wedi ei dodrefnu yn ôl egwyddorion Mudiad Rhydychen.

Hen ffynnon sanctaidd, Llanllawer, a'r giat wedi'i addurno gydag offrymau
Dathlu'r Hen Galan yng Nghwm gwaun, 19 Ionawr 1961 (Geoff Charles)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[2]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 266.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cwm Gwaun (pob oed) (313)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm Gwaun) (178)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm Gwaun) (229)
  
73.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cwm Gwaun) (29)
  
23.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]