Cwm Rhondda (emyn-dôn)

Emyn-dôn Gymreig boblogaidd iawn yw Cwm Rhondda, sy'n cael ei ystyried fel anthem answyddogol Cymru a genir ar nifer o achlysuron ar wahân i'r eglwys, gan gynnwys mabolgampau (yn enwedig ar y maes rygbi).[1] Daw enw'r gân o le caiff ei chyfansoddi, sef Cwm Rhondda, yn dilyn arferiad i alluogi organyddion i adnabod tôn yn syth.[2] Ysgrifennodd William Williams y testun (Arglwydd, arwain trwy'r anialwch)[1] a chaiff ei ganu i alaw a gyfansoddodd John Hughes. Cred rhai i'r alaw gael ei hysgrifennu ar gyfer Cymanfa Ganu'r Bedyddwyr ym Mhontypridd yn 1905 ond dywed eraill ei bod wedi ei hysgrifennu i gyrddau arbennig yng Nghapel Rhondda, eglwys y Bedyddwyr, Trehopcyn, Pontypridd, yn 1907. Mae'n sôn am hanes yr Iddewon yn teithio o'r Aifft i Ganaan (stori Llyfr Exodus yn y Beibl).[2] Weithiau canir geiriau Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd gan Ann Griffiths. Mae fersiynau Saesneg o'r gân hefyd: Bread of Heaven (cyfieithiad o eiriau Williams, gan Peter Williams), Christ is Coming, a God of Grace and God of Glory.


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "100 Arwyr Cymru — William Williams (Pant-y-celyn)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-04-26. Cyrchwyd 2007-01-01.
  2. 2.0 2.1 S4C — Codi Canu: Cwm Rhondda

Darllen pellach golygu

  • Huw Williams. Rhagor o Donau a'u Hawduron (Llyfrau'r MC, 1969).

Dolenni allanol golygu