Casgliad o ddiferynnau neu grystalau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl (Lladin: cumulus). Ar y ddaear, dŵr yw'r elfen sy'n eu ffurfio.

Cymylau Stratocumulus perlucidus, o awyren.

Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cumulus (Lladin, "wedi eu pentyrru").

Mathau eraill o gwmwl golygu

Gall cymylau Kelvin-Helmholtz ddigwydd mewn cysylltiad ag amryw o brif gategoriau, megis Cirrus, Altocumulus, Stratocumulus, Stratus & Cumulus. Oherwydd hyn mae‘r Swyddfa Dywydd yn dosbarthu cymylau Kelvin-Helmholtz fel ‘Cymylau Arbennig’.

Cymylau arbennig golygu

Y Cymylau Arbennig eraill yw Nacreous, Nosloyw Noctilucent, Banner Clouds ynghyd â thonnau Kelvin-Helmholtz (terminoleg swyddogol llawn).

Cymylau Ategol golygu

Dosbarthiad arall sy’n cynnwys cymylau llai cyffredin yw Cymylau Ategol (Accessory Clouds) megis Pileus, Pannus, Velum, Incus, Mamma, Virga, Praecipitatio, Arcus, Tuba

Cymylau anthropogenig golygu

Gweithgareddau dyn sy’n gyfrifol am rhain, megis Olion cyddwyso (Contrails awyren), cymylau Pyrocumulus (tân) a Fumulus (mwg).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Huw H. Jones, cys. pers.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am cwmwl
yn Wiciadur.