Cwpan Doddie Weir

Mae Cwpan Doddie Weir (Saesneg:Doddie Weir Cup) yn dlws gwastadol rygbi'r undeb sydd yn cael ei herio rhwng yr Alban a Chymru ers 2018. Crëwyd y cwpan i ddod ag ymwybyddiaeth i glefyd niwronau motor. Cafodd cyn-glo rhyngwladol yr Alban Doddie Weir ddiagnosis o’r salwch ac enwyd y cwpan er anrhydedd iddo.[1]

Cwpan Doddie Weir
Enghraifft o'r canlynolrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, rugby union match Edit this on Wikidata
CrëwrHamilton & Inches Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2018 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru, Yr Alban Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Enillodd Cymru yn y gêm agoriadol o 21 pwynt i 10 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2018.[2] Cymru yw'r deiliaid presennol.[3]

Dyluniad golygu

Comisiynwyd y cwpan ar y cyd gan Undeb Rygbi'r Alban ac Undeb Rygbi Cymru a chafodd ei ddylunio gan y gofaint arian o Gaeredin Hamilton ac Inches.[4]

Dywedodd Doddie Weir am y tlws bod y gof arian "wedi gwneud gwaith hollol wych wrth ei wneud gyda dolenni mawr i efelychu fy nghlustiau enfawr!".[5]

Elusen golygu

Sefydlodd Weir elusen o'r enw My Name'5 Doddie Foundation i helpu i ariannu triniaethau ar gyfer clefyd niwronau motor.[6]

Yn wreiddiol, nid oedd Undeb Rygbi Cymru nac Undeb Rygbi'r Alban yn bwriadu cyfrannu unrhyw arian werthiant tocynnau i'r gêm agoriadol i'r elusen,[7] ond arweiniodd pwysau gan gefnogwyr ac yn y cyfryngau at roi swm chwe ffigwr yn y pen draw.[8]

Crynodeb golygu

Manylion Wedi chwarae Wedi ennill gan
  yr Alban
Wedi ennill gan
  Cymru
Cyfartal Pwyntiau i'r Alban Pwyntiau i Gymru
Yn yr Alban 2 0 2 0 35 43
Yng Nghymru 2 1 1 0 24 31
Cyfanswm 4 1 3 0 59 74

Canlyniadau golygu

Blwyddyn Dyddiad Lleoliad Cartref Sgôr Oddi Gartref Enillydd
2018 3 Tachwedd Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd   Cymru 21–10   yr Alban   Cymru
2019 9 Mawrth Stadiwm Murrayfield, Caeredin   yr Alban 11–18   Cymru   Cymru
2020 31 Hydref Parc y Scarlets, Llanelli   Cymru 10–14   yr Alban   yr Alban
2021 13 Chwefror Stadiwm Murrayfield, Caeredin   yr Alban 24–25   Cymru   Cymru

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pwysau ar undebau rygbi i gyfrannu arian". 2018-10-29. Cyrchwyd 2019-09-05.
  2. "Croesawu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref yn 2018". BBC Cymru Fyw. 2018-01-19. Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. "Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Yr Alban 24-25 Cymru". BBC Cymru Fyw. 2021-02-13. Cyrchwyd 2021-02-14.
  4. "Doddie Weir Cup Design". Hamilton & Inches. Cyrchwyd 2021-02-14.
  5. Barnes, David (2018-10-28). "SRU and WRU have let the sport down, but Doddie Weir Cup is still well worth celebrating". The Offside Line (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
  6. "Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru". BBC Cymru Fyw. 2018-11-02. Cyrchwyd 2021-02-14.
  7. "Scottish Rugby defends Weir cash decision". BBC Sport. Cyrchwyd 2021-02-14.
  8. "Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau". BBC Cymru Fyw. 2018-10-30. Cyrchwyd 2021-02-14.