Baltwyr oedd yn byw yng ngorynys Kurzeme (Gwlad Cwr) yn Latfia yn ystod yr Oesoedd Canol oedd y Cwriaid (Cwroneg: Kursi; Latfieg: kurši). Cafodd eu concro gan y Marchogion Lifonaidd, urdd o groesgadwyr Almaenig, ym 1263 a'u gorfodi i droi'n Gristnogion.[1] Roedd diwylliant ac iaith y Cwriaid yn debyg iawn i'r Latfiaid, a chadwodd eu hunaniaeth ar wahân hyd nes yr 16g pan gafodd eu cymhathu â'r Latfiaid.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 315.
  2. (Saesneg) Balt (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2015.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Cwriaid o'r Saesneg "Curonians/Cours/Kurs". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Latfia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato